Gweithgaredd
Astudiwch yr adolygiadau a’r sylwadau am wasanaeth cwsmeriaid yn y blychau isod. Am bob datganiad, rhowch sgôr rhwng
plws 5 am adolygiad da a minws 5 am adolygiad gwael.
Beth yw’ch sgôr derfynol ar ôl adio’r holl sgoriau am y sylwadau cadarnhaol a thynnu i ffwrdd yr holl sgoriau am y sylwadau negyddol?
Trafodwch eich atebion gyda’ch cyd-ddisgyblion.
- Difethwyd y dydd gan y ciwiau hir am y reidiau mwyaf poblogaidd. Rhaid i ymwelwyr gyrraedd yn gynnar i gael y gorau o’r ymweliad.
- Diwrnod gwych ond roedd y toiledau’n ofnadwy.
- Llawer o arian am ymweliad sy’n para ychydig dros awr.
- Gwasanaeth rhagorol gan weithredwr reid ‘Fugitive’ a helpodd pan gollom ein ffôn.
- Roedd y derbynnydd braidd yn ddigywilydd pan ofynnom am ystafell gyda dau wely.
- Wedi mwynhau’r daith dywysedig yn fawr iawn, a’r tywysydd wedi’i gwneud yn ddiddorol i’n plant.
- Gwych i’m gefeilliaid 5 oed – cawsant ddiwrnod bendigedig.
- Roedd yr abseilio wedi’i drefnu’n dda iawn a chawsom hyfforddiant ardderchog cyn dechrau’r gweithgaredd.
- Roedd y daeargelloedd yn y castell yn llaith a’r llawr yn llithrig. Roedd yn beryglus i’m mam-yng-nghyfraith sy’n cerdded â ffon.
- Nid oedd y lifftiau yn y gwesty’n gweithio am dri diwrnod yn ystod ein harhosiad ac roeddem ar y seithfed llawr.
- Yn ôl y pamffled, roedd y gwesty yng nghanol y lle gwyliau, ond roedd rhaid i ni gerdded 20 munud i’r siop agosaf.
- Roedd y staff i gyd yn hyfryd ac ni allent fod yn fwy cymwynasgar.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-2.3-Adnodd5.docx