Gweithgaredd 1
Ymchwiliwch i’r cynhyrchion a’r gwasanaethau a ddarperir gan Ganolfan y Mileniwm ac eglurwch pam y dylai twristiaid sy’n ymweld â Bae Caerdydd dreulio amser yn y ganolfan.
Hefyd, gellir dosbarthu rhai o’r stadia chwaraeon yn atyniadau adeiledig, yn enwedig y rhai sy’n cynnig teithiau o’r cyfleusterau, er enghraifft Stadiwm Principality.