Dull Cyflwyno

Atyniadau adeiledig

Atyniadau dros amser

Yr ail grŵp o atyniadau adeiledig yw’r rheini sydd wedi datblygu i fod yn atyniadau dros amser. Cestyll, eglwysi, eglwysi cadeiriol a rhai adeiladau diwydiannol – ni adeiladwyd y rhain byth i ddenu twristiaid, ond erbyn hyn caiff rhai ohonynt filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Ymhlith yr enghreifftiau yng Nghymru mae Big Pit, Castell Conwy ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn Sir Benfro.