Gan fod holl gyrchfannau twristiaeth fel busnesau sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, mae cyrchfannau twristiaeth yn y blynyddoedd diwethaf wedi ffurfio sefydliadau proffesiynol er mwyn rheoli a marchnata cyrchfannau. Mae’r rhain yn cael eu galw yn Sefydliadau Rheoli Cyrchfan neu Sefydliadau Marchnata Cyrchfan (DMOs – Destination Management [Marketing] Organisations).
Darllenwch y tair erthygl isod sy’n egluro beth yw DMOs a beth yw cynllun rheolaeth cyrchfan. Y tair erthygl yw:
- Eglurhad o beth yw DMOs gan VisitBritain, sef y corff sy’n gyfrifol am dwristiaeth yn y DU.
- Cynllun Marchnata Cyrchfan ar gyfer ardal Abertawe.
- Enghraifft o eglurhad Sefydliad Rheoli Cyrchfan o Arfordir Suffolk yn Lloegr.