Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 3.1

Rheoli Cyrchfannau

Gan fod holl gyrchfannau twristiaeth fel busnesau sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, mae cyrchfannau twristiaeth yn y blynyddoedd diwethaf wedi ffurfio sefydliadau proffesiynol er mwyn rheoli a marchnata cyrchfannau. Mae’r rhain yn cael eu galw yn Sefydliadau Rheoli Cyrchfan neu Sefydliadau Marchnata Cyrchfan (DMOs – Destination Management [Marketing] Organisations).

Darllenwch y tair erthygl isod sy’n egluro beth yw DMOs a beth yw cynllun rheolaeth cyrchfan. Y tair erthygl yw:

  1. Eglurhad o beth yw DMOs gan VisitBritain, sef y corff sy’n gyfrifol am dwristiaeth yn y DU.
  2. Cynllun Marchnata Cyrchfan ar gyfer ardal Abertawe.
  3. Enghraifft o eglurhad Sefydliad Rheoli Cyrchfan o Arfordir Suffolk yn Lloegr.

Visit Britain

Sefydliadau Rheoli Cyrchfan

Mae pob cyrchfan yn wahanol ac yn wynebu sialensiau gwahanol, ac yn gofalu am nifer o randdeiliaid gyda’u hanghenion penodol. Mae’r sefydliadau sy’n gyfrifol am yr economi ymwelwyr lleol hefyd yn gallu amrywio. Maen nhw’n gallu bod yn gyrff i’r sector cyhoeddus fel awdurdodau lleol gyda ffiniau clir, cwmnïau preifat, neu bartneriaethau rhwng y sector cyhoeddus a phreifat sy’n gweithio ar draws rhanbarth.

Mae cyrchfannau sy’n cael eu rheoli’n dda yn fwy tebygol o gynnal buddsoddiad, twf busnes a chyflogaeth heb gael effaith negyddol hir dymor ar yr amgylchedd na’r boblogaeth leol. Mae’r cyrchfannau sy’n cael eu rheoli orau hefyd yn debygol o atynnu mewnfuddsoddiad ar draws amrywiaeth ehangach o sectorau, yn ogystal â swyddi sy’n ychwanegu gwerth a thalent newydd. Felly, maen nhw’n llefydd gwych i fyw a gweithio ynddynt, yn ogystal ag i ymweld â nhw.

Trwy weithgareddau hyrwyddo ac ymchwil a chynhyrchu data, mae DMOs yn helpu cyrchfannau i dyfu eu heconomïau lleol drwy dwristiaeth. Allan o’r holl ddeunyddiau sy’n cael eu defnyddio i gynhyrchu twf yn yr economi ymwelwyr, cynlluniau rheoli cyrchfan yw’r un mwyaf effeithiol. Mae’r cynlluniau hyn yn helpu i greu dull integredig, cynaliadwy a hir dymor i ymdrin â rheolaeth cyrchfan.

Gweithgaredd 1

Darllenwch yr erthygl VisitBritain yna atebwch y cwestiynau isod.

  • Cwblhewch y frawddeg: ‘Mae cyrchfannau sy’n cael eu rheoli’n dda yn fwy tebygol o
  • Ceisiwch adnabod tair ffordd mae DMOs yn helpu cyrchfannau i dyfu eu heconomïau trwy dwristiaeth.
  • Beth mae cynlluniau rheoli cyrchfan effeithiol yn helpu eu creu?

Abertawe

Mae Cynllun Rheoli Cyrchfan wedi cael ei gynhyrchu i ymdrin â rhai o’r problemau presennol, ac i adnabod problemau’r dyfodol sy’n wynebu twristiaeth yn yr ardal.

Prif ffocws y cynllun fydd cyfres o weithredoedd i fynd i’r afael â phroblemau strategol, sydd o natur dymhorol, ansawdd y cynnyrch, cyllid a datblygiad cynaliadwy.

‘Cyrchfan Bae Abertawe’ yw datganiad o fwriad y diwydiant twristiaeth ar sut maen nhw’n anelu i wella profiad yr ymwelwr dros y blynyddoedd nesaf. Am y tro cyntaf, mae’r sectorau preifat, cyhoeddus a thrydyddol sydd ynghlwm â thwristiaeth wedi adnabod y sialensiau o’u blaen ac yn mynd i gydweithredu er mwyn sicrhau newid cadarnhaol yn nelwedd yr ardal a pherfformiad economaidd.

Mae’r cynllun hwn wedi’i rannu i 4 thema strategol

  • Cydweithio – yn cynnwys ffurfio partneriaethau gweithio effeithiol gyda rhanddeiliaid twristiaeth leol allweddol.
  • Sicrhau ansawdd – datblygu a chynnal isadeiledd ansawdd uchel er mwyn bodloni ymwelwyr ac anghenion preswylwyr, er enghraifft.
  • Taclo natur dymhorol – yn cynnwys sefydlu ymgyrch farchnata effeithiol ar gyfer Bae Abertawe yn y tymhorau tawelach (Gwanwyn, Hydref a Gaeaf).
  • Sicrhau Cynaliadwyedd – er enghraifft mabwysiadau dull cytbwys rhwng ffyniant economaidd, amddiffyn yr amgylchedd ac ecwiti cymdeithasol er mwyn cefnogi datblygiad cynaliadwy o fewn y cyrchfan.

Gweithgaredd 2

Darllenwch yr erthygl am Abertawe yna atebwch y cwestiynau isod.

  • Beth yw bwriad cynllun rheoli ‘Cyrchfan Bae Abertawe’?
  • Dewiswch beth rydych chi’n eu hystyried yw dwy thema strategaeth bwysicaf y cynllun.

Arfordir Suffolk

Mae Sefydliad Rheoli Cyrchfan Arfordir Suffolk Ltd yn gwmni cyfyngedig, wedi’i ffurfio yn 2012 gyda’r pwrpas o hyrwyddo Arfordir Suffolk fel cyrchfan i ymwelwyr. Cyn hyn, roedd hyrwyddo twristiaeth yn cael ei ariannu’n bennaf gan y llywodraeth, ond mae newidiadau arwyddocaol mewn cyllidau cyhoeddus yn golygu bod angen dull newydd. Felly, rydym yn uno gyda’n gilydd er mwyn rhoi’r cyfle gorau i Arfordir Suffolk fod yn hysbys i ymwelwyr wrth ddewis cyrchfan gwyliau.

Mae’r sefydliadau hyn yn cynnwys: Adnams PLC, Aldeburgh Music, Snape Maltings, Suffolk Coast & Heaths, Suffolk Secrets Ltd, TA Hotel Collection Ltd a Chyngor Dosbarth Arfordir Suffolk. Mae’r sefydliadau hyn yn rhannu’r weledigaeth sef drwy gydweithio, mae modd iddyn nhw adeiladu rhestr fwy gafaelgar o resymau i annog ymwelwyr i ddewis Arfordir Suffolk fel cyrchfan gwyliau.

Gyda chymysgedd ffantastig o olygfeydd syfrdanol, llety o ansawdd, diwylliant adnabyddus dros y byd, ac enw da am fwyd a diod ardderchog sy’n tyfu’n gyflym, mae’r rhan yma o’r DU yn ddewis rhagorol i unrhyw ymwelydd sy’n gobeithio samplu profiadau gwych a chreu atgofion gwyliau ffantastig.

Gweithgaredd 3

Darllenwch yr erthygl am Arfordir Suffolk ac atebwch y cwestiynau isod.

O’r rhestr o sefydliadau a sefydlodd y cynllun, ceisiwch adnabod:

  • Un darparwr llety
  • Un sefydliad sector cyhoeddus 

Ceisiwch adnabod pedwar elfen sy’n denu pobl i Arfordir Suffolk