Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 3.1

Datblygiad trafnidiaeth

Mae pob sefydliad twristiaeth sy’n cynnig trafnidiaeth ar gyfer ymwelwyr i deithio i, ac o fewn cyrchfan, yn gallu darparu cynhyrchion a gwasanaethau newydd sy’n gallu ychwanegu at apêl cyrchfan.

night-tube.png

Gweithgaredd

Mae’r map uchod yn dangos y rhwydwaith o lwybrau sy’n cael eu gweithredu gan Transport for London ar y system danddaearol drwy nos Wener a nos Sadwrn.

Eglurwch sut gall hyn ychwanegu at apêl Llundain fel cyrchfan i dwristiaid.