Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 3.1

Carfanau pwyso

Mae carfanau pwyso yn helpu sicrhau nad yw datblygiad twristiaeth yn niweidio’r amgylchedd neu naws atyniadau arbennig. Mae rhai carfanau pwyso yn gweithio o fewn cyrchfan penodol, ac mae rhai yn gweithio ar lefel genedlaethol drwy’r DU.

Gall carfanau pwyso eraill, fel Tourism Concern, weithio mewn nifer o wledydd drwy’r byd. Mae’r rhan fwyaf o’i waith mewn ardaloedd ble mae’r amgylchedd dan fygythiad twristiaeth, neu ble mae pobl leol yn cael eu hecsbloetio.

Mae’r darnau isod yn egluro gwaith y Ramblers – carfan bwyso sy’n ceisio gwella cyfleusterau ar gyfer pobl sy’n mwynhau cerdded yn y DU.

Cyflwyniad

Fel elusen gerdded fwyaf Prydain, mae’r Ramblers yn helpu pawb i fwynhau rhyddid yr awyr agored ar droed. Rydym yn ymrwymedig i gefnogi 9 miliwn o gerddwyr Prydain ac amddiffyn ac ehangu mynediad i lefydd ble mae pobl yn hoffi cerdded – os yw hynny ar draws ein rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus a drysorir, yn ein trefi a dinasoedd neu ar dir mynediad fel ein mynyddoedd, gweunydd a rhosydd. Yn gwneud hyn yn bosibl mae ein 26,500 o wirfoddolwyr: o arwain teithiau cerdded a chlirio llwybrau cerdded i drefnu ymgyrchoedd lleol i amddiffyn a hyrwyddo llwybrau lleol.

Rhoi cerdded yng nghalon gwella iechyd y genedl

Gyda chynnydd ym mhryder ar gyfer iechyd ffisegol a meddyliol y genedl, mae’n fwy pwysig nag erioed i ddarganfod datrysiadau sy’n ymarferol, effeithiol ac yn fforddiadwy. Gyda gwelliannau sydd wedi’u profi ar gyfer iechyd, mae cerdded yn gallu arbed arian cyhoeddus a helpu sicrhau ein bod yn byw yn hirach, a bod mwy o bobl yn gallu mwynhau bywyd yn eu henoed.

Gwneud Trefi a Dinasoedd yn ddiogel i gerdded

Mae ein dinasoedd wedi’u dylunio’n bennaf o gwmpas teithio ar gar, sy’n arwain at lefelau gweithgaredd isel, cynnydd mewn peryglon i eraill a mwy o lygredd aer. Os ydyn ni eisiau annog pobl i deithio mwy ar droed, mae angen ffyrdd diogel, deniadol, wedi’u cysylltu’n dda ac aer glanach mewn ardaloedd trefol, fel bod cerdded yn ddewis hawdd a dymunol ar gyfer unrhyw siwrnai.

Sicrhau dyfodol ein Llwybrau Cenedlaethol

Mae Llwybrau Cenedlaethol yn darparu mynediad cyhoeddus i rai o’n tirluniau harddaf. Fe wnaeth y llywodraeth ddiwethaf gynnydd da ar ychwanegiad diweddaraf y rhwydwaith, sef Llwybr Arfordir Lloegr. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bawb fwynhau eu treftadaeth arfordirol. Mae’n hanfodol, fodd bynnag, bod yna ymrwymiad i gwblhau Llwybr Arfordir Lloegr a sicrhau hyfywdra hir dymor hyn, a phob Llwybr Cenedlaethol arall.

Gweithgaredd

Crynhowch yr hyn mae Ramblers yn ceisio’i gyflawni mewn tua 50 gair.