Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 3.1

Rôl cynghorau

Awdurdodau lleol fel cynghorau sir a chynghorau dinas sy’n bennaf gyfrifol am eitemau fel addysg, casglu sbwriel, cynnal ffyrdd lleol, darparu gwasanaethau cymdeithasol ac yn y blaen. Mae cynghorau hefyd yn cyfrannu at hyrwyddo twristiaeth i gyrchfannau poblogaidd o fewn yr ardaloedd maen nhw’n gyfrifol amdanyn nhw.

Mae rhai cynghorau yn ystyried hyn yn rôl bwysig, tra bod eraill yn ei hystyried yn llai pwysig. Mae cynghorau yn gallu gweithio gyda sefydliadau partner er mwyn hyrwyddo twristiaeth, ac maen nhw fel arfer yn rhedeg Canolfannau Croeso. Efallai eu bod nhw wedi sefydlu Sefydliadau Rheoli Cyrchfan hefyd, ond nid dyma’r achos o hyd.