VisitBritain yw’r ‘bwrdd croeso’ pwysicaf yn y DU, gydag amrywiaeth eang o gyfrifoldebau yn cynnwys hyrwyddo’r DU fel cyrchfan drwy’r byd.
O fewn VisitBritain, mae gan bob gwlad eu bwrdd croeso eu hunain:
- VisitEngland
- Croeso Cymru
- Visit Scotland
- Visit Northern Ireland
Gweler enghraifft o un o’r ymgyrchoedd sy’n cael eu trefnu gan y byrddau croeso cenedlaethol isod.
Yn ddiweddar, fe wnaeth VisitEngland a byrddau croeso Yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Llundain, ddechrau rhedeg ymgyrch farchnata ddomestig fwyaf erioed. Dyluniwyd yr ymgyrch, sef Holidays at Home are GREAT!, i annog Prydeinwyr i fynd ar fwy o wyliau a gwyliau byr o fewn y DU.
Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae’r ymgyrch wedi cynnwys sêr pennaf y llwyfan, sgrin ac animeiddiad. Mae’r cydrannau allweddol yn cynnwys hysbyseb deledu proffil uchel wedi’i ddylunio er mwyn ysbrydoli cwsmeriaid, gwefan yn cynnwys cynigion a disgowntiau ac adnoddau a deunyddiau cefnogol ar gyfer diwydiant a masnach deithio.
Dechreuodd ein stori GREAT gyda phedwar o’n hoff actorion – Michelle Dockery, Julie Walters, Stephen Fry a Rupert Grint.
Dyluniwyd ein hymgyrch Holidays at Home are GREAT! gyntaf er mwyn roi hwb i’r niferoedd o Brydeinwyr sy’n ymweld â chyrchfannau'r DU. Bwriadwyd hefyd iddo ddangos yr amrywiaeth eang o brofiadau sydd i’w cael yn y wlad, a’r gwerth eithriadol wnaethon nhw gyflwyno yn 2012, sef blwyddyn arbennig Gemau’r Olympaidd a Pharalympaidd yn Llundain.
Roedd yr ymgyrch wreiddiol yn cynnwys ymgyrch hysbysebu teledu yn cynnwys pedwar o’n hoff actorion – Stephen Fry, Julie Walters, Rupert Grint a Michelle Dockery. Roedd yr hysbyseb yn cynnwys themâu'r arfordir, cefn gwlad a’r ddinas, gyda neges i ymweld â phorth gwefan wedi’i ddylunio’n arbennig ar gyfer yr ymgyrch. Roedd y wefan yn cynnwys cynigion arbennig o’n partneriaid diwydiant yn cynnwys tocyn disgownt a chynigion gwych eraill, ac yn cysylltu’n uniongyrchol i wefannau busnesau unigol ar gyfer gwybodaeth bellach ac i archebu lle yn uniongyrchol gyda’r darparwr.
Gweithgaredd
Ar ôl i chi ddarllen yr wybodaeth uchod, gan weithio mewn parau, datblygwch ‘fwrdd stori’ ar gyfer hysbyseb teledu er mwyn annog twristiaid domestig i ymweld â chyrchfan ble byddech chi’n hoffi byw. Pa actor fyddwch chi’n ddewis i ymddangos yn eich hysbyseb?
Gallwch chi greu cyfres o frasluniau er mwyn dangos sut bydd yr hysbyseb yn edrych. Gallwch chi hefyd greu PowerPoint.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U3-3.1-Adnodd7.docx