Abertawe
Mae Cynllun Rheoli Cyrchfan wedi cael ei gynhyrchu i ymdrin â rhai o’r problemau presennol, ac i adnabod problemau’r dyfodol sy’n wynebu twristiaeth yn yr ardal.
Prif ffocws y cynllun fydd cyfres o weithredoedd i fynd i’r afael â phroblemau strategol, sydd o natur dymhorol, ansawdd y cynnyrch, cyllid a datblygiad cynaliadwy.
‘Cyrchfan Bae Abertawe’ yw datganiad o fwriad y diwydiant twristiaeth ar sut maen nhw’n anelu i wella profiad yr ymwelwr dros y blynyddoedd nesaf. Am y tro cyntaf, mae’r sectorau preifat, cyhoeddus a thrydyddol sydd ynghlwm â thwristiaeth wedi adnabod y sialensiau o’u blaen ac yn mynd i gydweithredu er mwyn sicrhau newid cadarnhaol yn nelwedd yr ardal a pherfformiad economaidd.
Mae’r cynllun hwn wedi’i rannu i 4 thema strategol
- Cydweithio – yn cynnwys ffurfio partneriaethau gweithio effeithiol gyda rhanddeiliaid twristiaeth leol allweddol.
- Sicrhau ansawdd – datblygu a chynnal isadeiledd ansawdd uchel er mwyn bodloni ymwelwyr ac anghenion preswylwyr, er enghraifft.
- Taclo natur dymhorol – yn cynnwys sefydlu ymgyrch farchnata effeithiol ar gyfer Bae Abertawe yn y tymhorau tawelach (Gwanwyn, Hydref a Gaeaf).
- Sicrhau Cynaliadwyedd – er enghraifft mabwysiadau dull cytbwys rhwng ffyniant economaidd, amddiffyn yr amgylchedd ac ecwiti cymdeithasol er mwyn cefnogi datblygiad cynaliadwy o fewn y cyrchfan.