Un offeryn ymchwilio arall y gallech ystyried ei ddefnyddio yw cyfweliad. Efallai y byddwch chi, a rhai o’ch cyd-ddisgyblion efallai, yn cael y cyfle i gyfweld â rheolwr neu aelod o staff sy’n gweithio i’r sefydliad twristiaeth rydych chi’n ei astudio.
Bydd yn bwysig paratoi ar gyfer y cyfweliad. Bydd hyn yn golygu gwneud nodiadau ac ychydig o waith ymchwil cefndir.
Efallai y bydd rhywfaint o’r wybodaeth yn y darn isod yn ddefnyddiol.
Yn hytrach na chyfweld ag un person, gallech chi ac efallai eraill gyfweld â grŵp o bobl. Yr enw ar hwn yw grŵp ffocws.
Mae pedwar gwahanol fath o gwestiynau sylfaenol.
- Cwestiynau agored
- Cwestiynau caeedig
- Cwestiynau dilynol
- Cwestiynau procio