Cwestiwn Procio
Prif waith y cwestiwn procio, sy’n dilyn prif gwestiwn neu gwestiwn dilynol, yw cael eglurhad. Dyma ambell enghraifft o gwestiynau procio.
“Dywedwch ragor wrthyf.”
“A wnewch chi roi enghraifft i mi?”
Heblaw’r cwestiynau procio a ofynnwch, gallwch hefyd ddefnyddio dulliau ymchwilio distaw.
- Cadw’n ddistaw.
- Nodio eich pen.
- Defnyddio golwg ddryslyd ar eich wyneb.