Busnes Twristiaeth

MPA 2.1 Amgylchedd busnes y DU

Cyfraddau Cyfnewid

Wrth i dwristiaid deithio o un wlad i wlad arall, mae’n rhaid iddyn nhw newid arian mewn i arian cyfred y wlad maen nhw’n ymweld â hi. Felly, pan mae twristiaid y DU yn ymweld â Ffrainc neu Sbaen, mae’n rhaid iddyn nhw brynu ewro. Yn debyg, pan mae twristiaid o’r UDA yn ymweld â’r DU, mae’n rhaid iddyn nhw brynu punnoedd Prydeinig.

Hefyd, pan mae twristiaid yn defnyddio cardiau credyd dramor ar eu gwyliau, mae’r hyn maen nhw’n ei wario ar eu gwyliau yn cael ei drawsnewid yn ôl i bunnoedd Prydeinig pan maen nhw’n derbyn eu bil.

Dangosir enghraifft isod. Cafodd y cerdyn credyd ei ddefnyddio i brynu nifer o nwyddau a gwasanaethau yn Ffrainc mewn ewro. Cafodd y cyfansymiau hyn eu trawsnewid yn ôl i bunnoedd Prydeinig gan gwmni’r cardiau credyd.

statement.png

Sylwch sut newidiodd y gyfradd cyfnewid rhwng Ewro a phunnoedd Prydeinig yn ystod y cyfnod gafodd y cerdyn ei ddefnyddio. Er enghraifft, ar 28 Awst, y gyfradd oedd 1.0791 Ewro, ac ar 31 Awst, y gyfradd oedd 1.0845.

Mae cyfraddau cyfnewid rhwng gwahanol arian cyfred wastad yn newid, yn dibynnu ar amodau economaidd a gwleidyddol. Mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar dwristiaid a sefydliadau twristiaeth.

Mae cyfraddau cyfnewid rhwng gwahanol arian cyfred yn gallu newid llawer dros gyfnod o amser, fel dwy i dair blynedd, ac mae’r newidiadau hyn yn gallu cael effaith fawr. Weithiau, mae’r termau ‘punt gref’ neu ‘punt wan’ yn cael eu defnyddio.

Mae ‘punt gref’ yn golygu bod twristiaid yn gallu prynu llawer o arian cyfred tramor pan maen nhw’n mynd dramor, sy’n gwneud eu gwyliau yn rhatach. Mae ‘punt wan’ yn golygu bod llai o arian cyfred yn gallu cael eu prynu, gan wneud pethau yn fwy drud i dwristiaid y DU pan fyddan nhw’n mynd dramor.

Gweithgaredd 1

Eglurwch sut mae cyfraddau cyfnewid newidiol yn gallu cael effaith ar y busnesau canlynol:

  1. Gwesty bach mewn cyrchfan gwyliau glan y môr yn y DU.
  2. Trefnydd teithiau o’r DU sy’n mynd â grwpiau bach o dwristiaid i Ewrop.
  3. Atyniad mawr.

Wrth brynu arian cyfred i wario dramor, mae’n rhaid i dwristiaid gael rhyw fath o syniad o beth maen nhw’n gwario a faint mae pethau yn costio. Felly, mae cyfrifo gwerth arian cyfred dramor yn bwysig.

Gadewch i ni dybio mewn cyfnod o amser bod £1 â chyfradd gyfnewid o $1.35 ac 1.12 Ewro.

Er mwyn newid arian Prydeinig i arian tramor, mae’n rhaid defnyddio’r fformiwla ganlynol:

Arian cyfred tramor = Arian cyfred Prydeinig x Cyfradd gyfnewid

Felly, o ystyried y cyfraddau cyfnewid uchod:

Ar gyfer £100, byddai twrist yn derbyn

135 (£100 x 1.35) a 112 Ewro (£100 x 1.12)

Gweithgaredd 2

Ymchwiliwch wefannau trawsnewid arian cyfred er mwyn gweld sut mae cyfraddau cyfnewid heddiw yn cymharu gyda’r rhai uchod.