Busnes Twristiaeth

MPA 2.1 Amgylchedd busnes y DU

Lefelau cyflogaeth a chwyddiant

Mae yna nifer o ffactorau sy’n arwain pobl i fod yn fwy neu’n llai cyfoethog dros gyfnod o amser. Bydd hyn yn effeithio ar gyfanswm yr arian sydd ganddyn nhw i wario ar gynhyrchion sefydliadau twristiaeth. Dylech ddeall ar ôl astudio’r adran ddiwethaf, os bydd incwm gwario yn gostwng, gall pobl neu deuluoedd benderfynu mynd ar wyliau yn y DU yn hytrach na mynd dramor. Mae’r un peth yn wir ar gyfer lefelau diweithdra. Os oes mwy o bobl yn ddi-waith yn y wlad, mae’n llai tebygol bydd yna alw am wyliau drud, a gall rhai sectorau o’r diwydiant twristiaeth ddioddef.

Chwyddiant yw cynnydd ym mhrisiau nwyddau a gwasanaethau. Mae chwyddiant yn golygu bod cynnydd yn y gost o fyw wrth i brisiau nwyddau a gwasanaethau gynyddu. Mae hyn yn effeithio ar incwm gwario, gan na fydd eich arian yn gallu prynu gymaint ag yr oedd yn bosib ambell fis yn ôl. Yn y mwyafrif o wledydd, mae chwyddiant fel arfer tua 1% neu 2% bob blwyddyn. E.e. gall eitem a oedd yn costio £100 flwyddyn ddiwethaf gostio £102 y flwyddyn hon. Os yw chwyddiant yn cynyddu i 5% neu fwy, mae pobl yn dueddol o fod yn fwy amharod i dalu costau mawr, fel gwyliau.

Fodd bynnag, mae’n rhaid cofio ei bod hi’n bosib mwynhau rhai cynhyrchion y diwydiant twristiaeth heb wario llawer o arian. Dydy diwrnod ar draeth, mynd am dro neu gael picnic mewn parc cenedlaethol ddim yn costio llawer mwy na phris y tanwydd ar gyfer y siwrnai. Mae teithio ar y trên ar oriau allfrig hefyd yn gallu lleihau’r gost o deithio i ddinasoedd, ac mae gan y mwyafrif o ddinasoedd amgueddfeydd a galerïau sy’n rhad ac am ddim i’w mynychu.

Mae teuluoedd yn gallu mynd ar wyliau am gyfnodau byrrach os ydyn nhw’n teimlo straen arian, neu fynd ar ambell ddiwrnod allan hyd yn oed. Dewis arall yw mynd ar fath rhatach o wyliau, fel gwersylla neu ddefnyddio Airbnb.

Mae sefydliadau twristiaeth yn cael eu heffeithio gan lefelau cyflogaeth a chwyddiant, yn yr un ffordd ag y maen nhw’n cael eu heffeithio gan incwm gwario a chyfraddau trethi. Yn gyffredinol, pan mae lefelau cyflogaeth ac incwm gwario yn uchel, mae sefydliadau twristiaeth yn gwneud busnes da. Ond mae pan mae lefelau diweithdra’n cynyddu ac/neu chwyddiant yn cynyddu, mae rhai sefydliadau twristiaeth yn gwneud llai o fusnes.