Gweithwyr asiantaeth
Fel cyflogwr, gallwch chi gyflogi gweithwyr dros dro drwy asiantaethau. Mae hyn yn golygu:
- rydych chi’n talu’r asiantaeth, yn cynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) a Thâl Salwch Statudol (TSS) y gweithwyr
- cyfrifoldeb yr asiantaeth yw sicrhau bod y gweithwyr yn cael eu hawliau o dan reoliadau amser gweithio
- ar ôl 12 wythnos o gyflogaeth ddi-dor yn yr un swydd, mae gweithwyr asiantaeth yn derbyn yr un telerau ac amodau â gweithwyr parhaol, yn cynnwys cyflog, amser gweithio, cyfnodau gorffwys, gwaith nos, egwylion a gwyliau blynyddol
- mae rhaid i chi ddarparu’r asiantaeth gyda gwybodaeth am y telerau ac amodau perthnasol yn eich busnes fel eu bod yn gallu sicrhau bod y gweithiwr yn derbyn triniaeth gyfartal ar ôl 12 wythnos yn yr un swydd
- mae rhaid i chi adael gweithwyr asiantaeth i ddefnyddio unrhyw gyfleusterau sy’n cael eu rhannu (e.e.. cantîn gweithwyr neu ofal plant) a rhoi gwybodaeth iddyn nhw am swyddi gwag o’r diwrnod cyntaf maen nhw’n gweithio yno
- rydych chi dal yn gyfrifol am eu hiechyd a diogelwch