Teulu, pobl ifanc, gwirfoddolwyr
Os ydych chi’n cyflogi aelodau teulu, mae rhaid i chi:
- osgoi triniaeth arbennig o ran tâl, dyrchafiadau ac amodau gweithio
- sicrhau bod treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu talu
- dilyn rheoliadau amser gweithio i aelodau ifancach y teulu
- cael yswiriant atebolrwydd y gweithwyr sy’n ymdrin ag aelodau ifanc y teulu
- gweld os oes rhaid i chi eu darparu nhw gyda chynllun pensiwn gweithle
Gwirfoddolwyr a gweithwyr gwirfoddol
Wrth gymryd gwirfoddolwyr neu weithwyr gwirfoddol ymlaen, rydych chi:
- yn gyfrifol am eu hiechyd a diogelwch
- yn gorfod rhoi cyfarwyddiadau a hyfforddiant yn y tasgau bydden nhw’n eu gwneud
Pobl ifanc
Gallwch chi gyflogi pobl ifanc os ydyn nhw’n 13 neu'n hŷn, ond mae yna reolau arbennig am ba mor hir maen nhw’n cael gweithio a pha swyddi maen nhw'n gallu gwneud. Unwaith mae rhywun yn 18, maen nhw’n cael eu hystyried fel ‘gweithiwr oedolyn’, ac mae rheolau eraill yn bodoli.
Yn ogystal â dilyn y rheolau hyn, mae rhaid i chi wneud asesiad risg cyn cymryd gweithwyr ifanc ymlaen.
Mae gan bobl ifanc hawliau cyflogaeth benodo fel:
- tâl mamolaeth statudol a thâl tadolaeth statudol arferol os ydyn nhw’n gymwys fel canlyniad i’w cyflogaeth ddi-dor
- amser oddi ar waith wedi’i dalu ar gyfer astudio a hyfforddi
- tâl dileu swydd
Mae gan weithwyr ifanc a phrentisiaid gyfraddau gwahanol i weithwyr oedolion ar gyfer yr isafswm cyflog cenedlaethol.