Hunangyflogedig /Ar ei liwt ei hun
Os ydych chi’n cyflogi person ar ei liwt ei hun, ymgynghorydd neu gontractwr, mae’n golygu:
- eu bod yn hunangyflogedig neu’n rhan o gwmnïau eraill
- maen nhw fel arfer yn edrych ar ôl eu treth â’u cyfraniadau Yswiriant Gwladol eu hunain
- efallai nad oes ganddyn nhw’r un hawliau â gweithwyr, e.e.. isafswm cyflog
- rydych chi dal yn gyfrifol am eu hiechyd a diogelwch
Cyfnod penodol / Dros dro
yn para am gyfnod penodol o amser
- wedi’u gosod o flaen llaw
- yn gorffen pan mae tasg benodol yn cael ei gwblhau
- yn gorffen pan mae digwyddiad arbennig yn digwydd
Mae rhaid i weithwyr cyfnod penodol dderbyn yr un driniaeth â gweithwyr llawn amser parhaol.
Dim oriau
Mae contractau dim oriau hefyd yn cael eu hadnabod fel contractau achlysurol. Mae contractau dim oriau fel arfer ar gyfer ‘gwaith ar dasg’ neu waith ‘ar alwad’, e.e.. dehonglwyr.
Mae hyn yn golygu:
- maen nhw ar alwad i weithio pan rydych chi eu hangen nhw
- does dim rhaid i chi roi gwaith iddyn nhw
- does dim rhaid iddyn nhw weithio pan maen nhw’n cael eu gofyn i wneud
Mae gan weithwyr dim oriau hawl ar gyfer gwyliau statudol blynyddol a’r isafswm cyflog cenedlaethol fel gweithwyr cyffredin.
Dydych chi ddim yn gallu gwneud dim byd i atal gweithiwr dim oriau rhag darganfod gwaith mewn man arall. Yn ôl y gyfraith, maen nhw’n gallu anwybyddu cymal yn eu contract os ydyn nhw'n cael eu gwahardd rhag:
- edrych am waith
- derbyn gwaith gan weithiwr arall
Rydych chi dal yn gyfrifol am iechyd a diogelwch gweithiwr ar gontractau dim oriau.
Gweithwyr asiantaeth
Fel cyflogwr, gallwch chi gyflogi gweithwyr dros dro drwy asiantaethau. Mae hyn yn golygu:
- rydych chi’n talu’r asiantaeth, yn cynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) a Thâl Salwch Statudol (TSS) y gweithwyr
- cyfrifoldeb yr asiantaeth yw sicrhau bod y gweithwyr yn cael eu hawliau o dan reoliadau amser gweithio
- ar ôl 12 wythnos o gyflogaeth ddi-dor yn yr un swydd, mae gweithwyr asiantaeth yn derbyn yr un telerau ac amodau â gweithwyr parhaol, yn cynnwys cyflog, amser gweithio, cyfnodau gorffwys, gwaith nos, egwylion a gwyliau blynyddol
- mae rhaid i chi ddarparu’r asiantaeth gyda gwybodaeth am y telerau ac amodau perthnasol yn eich busnes fel eu bod yn gallu sicrhau bod y gweithiwr yn derbyn triniaeth gyfartal ar ôl 12 wythnos yn yr un swydd
- mae rhaid i chi adael gweithwyr asiantaeth i ddefnyddio unrhyw gyfleusterau sy’n cael eu rhannu (e.e.. cantîn gweithwyr neu ofal plant) a rhoi gwybodaeth iddyn nhw am swyddi gwag o’r diwrnod cyntaf maen nhw’n gweithio yno
- rydych chi dal yn gyfrifol am eu hiechyd a diogelwch
Teulu, pobl ifanc, gwirfoddolwyr
Os ydych chi’n cyflogi aelodau teulu, mae rhaid i chi:
- osgoi triniaeth arbennig o ran tâl, dyrchafiadau ac amodau gweithio
- sicrhau bod treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu talu
- dilyn rheoliadau amser gweithio i aelodau ifancach y teulu
- cael yswiriant atebolrwydd y gweithwyr sy’n ymdrin ag aelodau ifanc y teulu
- gweld os oes rhaid i chi eu darparu nhw gyda chynllun pensiwn gweithle
Gwirfoddolwyr a gweithwyr gwirfoddol
Wrth gymryd gwirfoddolwyr neu weithwyr gwirfoddol ymlaen, rydych chi:
- yn gyfrifol am eu hiechyd a diogelwch
- yn gorfod rhoi cyfarwyddiadau a hyfforddiant yn y tasgau bydden nhw’n eu gwneud
Pobl ifanc
Gallwch chi gyflogi pobl ifanc os ydyn nhw’n 13 neu'n hŷn, ond mae yna reolau arbennig am ba mor hir maen nhw’n cael gweithio a pha swyddi maen nhw'n gallu gwneud. Unwaith mae rhywun yn 18, maen nhw’n cael eu hystyried fel ‘gweithiwr oedolyn’, ac mae rheolau eraill yn bodoli.
Yn ogystal â dilyn y rheolau hyn, mae rhaid i chi wneud asesiad risg cyn cymryd gweithwyr ifanc ymlaen.
Mae gan bobl ifanc hawliau cyflogaeth benodo fel:
- tâl mamolaeth statudol a thâl tadolaeth statudol arferol os ydyn nhw’n gymwys fel canlyniad i’w cyflogaeth ddi-dor
- amser oddi ar waith wedi’i dalu ar gyfer astudio a hyfforddi
- tâl dileu swydd
Mae gan weithwyr ifanc a phrentisiaid gyfraddau gwahanol i weithwyr oedolion ar gyfer yr isafswm cyflog cenedlaethol.
Wrth weithio yn y diwydiant twristiaeth, mae sefydliadau yn cynnig amrywiaeth eang o gontractau i weithwyr.
Mae angen i chi werthfawrogi'r mathau gwahanol o gontractau cyflogaeth sydd ar gael i weithwyr, sy’n cynnwys y canlynol:
- Llawn amser
- Rhan amser
- Hunangyflogedig
- Ar ei liwt ei hun
- Dros dro
- Achlysurol
- Dim oriau
- Gweithwyr asiantaeth
- Teulu
- Pobl ifanc
- Gwirfoddolwyr
Gweithgaredd 1
Bydd Rheolwr Cyffredinol mewn gwesty yn cyflogi pobl ar amrywiaeth o gontractau gwahanol yn dibynnu ar natur y gwaith sy’n cael ei gyflawni.
Adnabod gwahanol fathau o gontractau yng ngwesty ‘Belissimo’.
O’r rhestr isod, allwch chi adnabod y math o gontractau, sy’n debygol o fod gan y gweithwyr sydd wedi’u rhestru yng Ngwesty Belissimo?
Llawn amser/Rhan amser
Fel cyflogwr, mae rhaid i chi roi’r canlynol i weithwyr:
- datganiad ysgrifenedig o gyflogaeth neu gontract
- y lefel lleiafswm statudol o wyliau wedi’u talu
- slip talu yn dangos holl ddidyniadau, e.e.. cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG)
- yr hyd leiafswm statudol o seibiau gorffwys
- Tâl salwch statudol (TSS)
- gwyliau a thâl mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu
Mae rhaid i chi hefyd:
- sicrhau nad yw gweithwyr yn gweithio’n hirach na’r uchafswm sy’n cael ei ganiatáu
- talu gweithwyr o leiaf yr isafswm cyflog
- cael yswiriant atebolrwydd y gweithiwr
- darparu amgylchedd weithio diogel
- cofrestru gyda Chyllid a Thollau EM er mwyn delio gyda rhestr gyflogau, treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol
- ystyried ceisiadau gweithio hyblyg
- osgoi gwahaniaethu yn y gweithle
- gwneud addasiadau rhesymol i’ch adeilad busnes os yw’r gweithiwr yn anabl
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U2-2.2-Adnodd2.docx