Bydd angen i chi ddeall bod y cyfraddau cyflog yn eang ac yn amrywiol o fewn y diwydiant twristiaeth. Bydd gan beilot gyfradd cyflog well na glanhawr mewn gwesty. Mae cyfradd cyflog yn dibynnu ar rôl a chyfrifoldebau'r swydd sy’n cael ei chyflawni.
Gweithgaredd 1
Pwy sy’n ennill beth?
Edrychwch ar y rhestr o swyddi isod. Mewn grwpiau bach o dri neu bedwar, rhannwch y swyddi rhyngddoch chi, a cheisiwch ddod o hyd i wybodaeth am y cyfraddau cyflog sy’n cael eu cynnig ar gyfer pob swydd.
- Peilot Cwmni hedfan
- Criw caban
- Gyrrwr bws
- Asiant Teithio
- Cynrychiolydd Gwyliau
- Rheolwr Cyffredinol Gwesty
- Pen-cogydd
- Person trin bagiau
- Glanhawr mewn gwesty
- Porthor
- Harddwraig Cwmni Mordeithio
- Gweinydd
- Cyfarwyddwr llong fordeithio
- Curadur
- Achubwr bywydau
- Tywysydd teithio
Crëwch graff yn dangos cyfraddau cyflog y swyddi rydych chi wedi’u hymchwilio fel grŵp.
Gweithgaredd 2
Crëwch hysbyseb swydd eich hunain yn cynnwys cyfraddau cyflog a’r wybodaeth gafodd ei chasglu ar oriau gweithio yng ngweithgaredd 1. Rhannwch eich hysbyseb gyda gweddill y dosbarth.
Gweithgaredd 3
Dewiswch un o’r swyddi o'r rhestr a pharatowch PowerPoint i’w rannu gyda’r dosbarth yn egluro manteision ac anfanteision y swydd rydych chi wedi’i dewis. Hoffech chi wneud y swydd hon? Eglurwch pam neu pam ddim.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U2-2.2-Adnodd4.docx