Beth sydd ynghlwm ag iechyd a diogelwch?
Mae yna ddeddfau wedi’u pasio gan y llywodraeth ynglŷn ag Iechyd a Diogelwch yng nweithle sefydliadau twristiaeth.
Bydd angen i chi wybodaeth a deall y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, gyda chyfeiriad penodol i COSHH – Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (Control of Substances Hazardous to Health) a RIDDOR – Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (Reporting of Injuries, Diseases or Dangerous Occurrences Regulations) 1995.
Isod gwelir crynodeb byr o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.
Deddf i wneud darpariaeth bellach ar gyfer sicrhau iechyd, diogelwch a llesiant pobl yn y gweithle, er mwyn amddiffyn eraill rhag risgiau i iechyd a diogelwch mewn cysylltiad â gweithgareddau pobl yn y gweithle, er mwyn rheoli'r cadw a’r defnydd ac atal caffaeliad, meddiant a defnydd sylweddau peryglus anghyfreithlon, ac er mwyn rheoli allyriadau penodol i’r atmosffer.
Gweithgaredd 1
Roedd yna gyfres o drasiedïau ar feysydd pêl-droed yn y gorffennol, ac roedd hwliganiaeth llawer fwy eang nag y mae heddiw.
Mae’r trasiedïau mawr yn cynnwys:
- Parc Ibrox, Glasgow 1971: 66 o gefnogwyr wedi’u sathru a’u gwasgu i farwolaeth
- Dinas Bradford 1985: 55 o bobl wedi’u llosgi i farwolaeth
- Stadiwm Heysel, Brwsel 1986: dros 20 bobl wedi’u lladd mewn anghydfod rhwng cefnogwyr Lerpwl a Juventus
- Hillsborough, Sheffield 1989: 96 o gefnogwyr Lerpwl wedi’u gwasgu i farwolaeth
Mewn grwpiau bach, ymchwiliwch bob un o’r uchod er mwyn darganfod yn union beth ddigwyddodd.
Gweithgaredd 2
Un o lawer o effeithiau trasiedïau’r 1980au oedd bod clybiau mawr naill ai wedi ailddatblygu eu meysydd, fel yn achos Old Trafford fel enghraifft, neu wedi symud i stadia â seddau i bawb.
Gan weithio mewn parau neu grwpiau bach, ymchwiliwch enwau'r stadia hen a newydd ar gyfer y clybiau sy’n cael eu rhestru isod. Rhannwch eich darganfyddiadau gyda’ch grŵp.
Trychineb
Fe wnaeth trasiedi tân Dinas Bradfrod arwain at Adroddiad Popplewell yn 1986, ac fe wnaeth trasiedi Hillsborough arwain at Adroddiad Taylor yn 1990.
Mae’r mesurau sy’n cael eu hawgrymu yn yr adroddiadau hyn nawr yn bethau cyffredin mewn stadia modern, ond cawsant eu cyflwyno yn dilyn colli bywyd sylweddol. Mae prif fesurau’r adroddiadau yn cynnwys:
- Stadia seddau i bawb yn yr Uwch gynghrair/ Y bencampwriaeth o 1995. Hyd hynny, roedd llawer o stadia enwog yn cynnwys terasau sefyll, fel y Kop yn Anfield (Lerpwl), a’r Shed yn Stamford Bridge (Chelsea).
- Capasiti llai yn holl stadia sydd â therasau. Gostyngodd hyn y bygythiad o orlenwi yn aruthrol.
- Elfennau diogelwch wedi’u cynyddu. Mae’r rhain yn cynnwys rhwystrau diogelwch, mynedfeydd/allfeydd, dulliau gweithredu tân, a rhybuddion/arwyddion clir.
- Cael gwared â ffensio perimedr. Roedd rhain wedi cael eu codi mewn nifer o feysydd er mwyn atal pobl rhag mynd ar y cae chwarae. Fodd bynnag, roedd ffensio perimedr yn gyfrannwr sylweddol yn nhrasiedi Hillsborough.
- Cael gwared â seddau a standiau fflamadwy (pren). Roedd seddau/standiau yn ffactor arwyddocaol yn nhân Dinas Bradford.
- Stiwardio digonol a hyfforddiant digonol i stiwardiaid.
- Gwahanu cefnogwyr. Cyn 1990, roedd gwahanu cefnogwyr yn llai trefnus nag y mae heddiw.
- Teledu cylch cyfyng a monitro llawn yn y bocs rheoli. Mae modd defnyddio teledu cylch cyfyng i archwilio aflonyddwch a monitro ymddygiad y dorf.
- Cyfathrebiadau stiward/bocs rheoli gwell.
Gweithgaredd 3
Gan ddefnyddio’r wybodaeth uchod ac eich ymchwil chi eich hun, eglurwch pam fod stadia chwaraeon yn fwy diogel heddiw nag yr oedden nhw yn y gorffennol.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U2-2.2-Adnodd6.docx