Busnes Twristiaeth

MPA 2.2 Canllaw i ganolfannau 2

Hawl i wyliau

Oes gan bawb sy’n gweithio yn niwydiant twristiaeth y DU hawl i wyliau?

Yn ôl y gyfraith, mae gan bob gweithiwr hawl i wyliau. Mae’r cyfanswm rydych chi’n derbyn fel arfer yn cael ei amlinellu yn eich contract cyflogaeth. Y lleiafswm statudol yw 5.6 wythnos, sy’n gallu cynnwys gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus.

Byddai’n fanteisiol i chi ddeall hawliau gwyliau sylfaenol gwahanol fathau o weithwyr.

Mae yna hawl leiafswm ar gyfer gwyliau â thâl, ond gall y cyflogwr gynnig mwy na hyn. Y prif bethau dylech chi wybod am hawliau gwyliau yw:

  • mae gyda chi hawl i gael 5.6 wythnos o wyliau blynyddol wedi’u talu (28 diwrnod i rai sy’n gweithio pum diwrnod yr wythnos)
  • mae’r rheini sy’n gweithio rhan amser gyda hawl ar gyfer yr un lefel o wyliau ar gyfartaledd. Ar hyn o bryd, mae hyn 5.6 gwaith y wythnos weithio arferol, er enghraifft 22.4 diwrnod ar gyfer rhywun sy’n gweithio pedwar diwrnod y wythnos
  • rydych yn dechrau adeiladu amser gwyliau pan rydych yn dechrau gweithio
  • gall eich cyflogwr reoli pryd y gallwch chi gymryd eich gwyliau
  • rydych yn derbyn cyflog arferol ar gyfer eich gwyliau
  • pan rydych yn gorffen swydd, rydych chi’n cael eich talu am unrhyw wyliau nad ydych chi wedi’u cymryd
  • mae gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus yn gallu cael eu cynnwys yn eich hawl lleiafswm
  • rydych yn parhau i gael hawl i’ch gwyliau drwy gydol eich cyfnod arferol a mamolaeth, a chyfnod tadolaeth a mabwysiadu.

Nid oes gan bobl hunangyflogedig hawl i dâl gwyliau. Maen nhw’n gallu cymryd gymaint o amser o’u gwaith ag y maen nhw'n dymuno, ond dydyn nhw ddim yn derbyn ceiniog am unrhyw ddiwrnod maen nhw’n colli. Felly, er nad ydyn nhw’n cael didyniadau am dâl gwyliau allan o’u cyflogau, oni bai eu bod yn gwneud eu cyfraniadau eu hunain i gynllun arbed, dydyn nhw ddim yn derbyn unrhyw arian am amser gwyliau sydd wedi’i gymryd. Yn amlwg, mae gan hyn ei fanteision a’i anfanteision.

Gweithgaredd 1

Mae rhai gweithwyr, fel gyrwyr Tacsi Uber, yn cael eu hystyried fel gweithwyr hunangyflogedig. Mae hyn yn golygu nad oes ganddyn nhw hawl i wyliau. Maen nhw wedi ceisio newid hyn am nifer o resymau.

Mewn grwpiau o dri neu bedwar, meddyliwch am, a thrafodwch fanteision ac anfanteision o fod yn hunangyflogedig o ran hawl i wyliau.

Gweithgaredd 2

Darllenwch yr adroddiadau canlynol am ddau yrrwr Tacsi Uber.

Uber yn colli apêl yn erbyn hawliau cyflogaeth i weithwyr

Gan Kat Hall 10 Tachwedd 2017 

Mae cwmni tacsi Uber wedi colli’u hapêl heddiw yn erbyn dyfarnu a ddylai eu gweithwyr gael eu hystyried yn weithwyr yn hytrach na hunangyflogedig.

Yn Hydref 2016, dywedodd Tribiwnlys Cyflogaeth Canolbarth Llundain bod dau yrrwr Uber, James Farrar ac Yaseen Aslam yn weithwyr Uber, a bod ganddyn nhw hawl ar gyfer tâl gwyliau, tâl egwyliau gorffwys a’r lleiafswm cyflog. Mae Uber yn anghytuno gyda, ac wedi brwydro yn erbyn y dyfarniad, ond heddiw, ategodd y tribiwnlys apelau cyflogaeth y penderfyniad gwreiddiol. Mae’r cwmni wedi dweud eu bod am apelio’r dyfarniad diweddaraf eto.

Dywedodd llefarydd ar ran y gyrwyr tacsi “Mae’r penderfyniad carreg filltir hwn yn gwneud ein hymgyrch i sicrhau bod gyrwyr yn derbyn yr hawliau mae gyda nhw’r hawl iddyn nhw – a bod y cyhoedd, y gyrwyr a’r teithwyr yn ddiogel.” Ychwanegodd: “Mae’n rhaid i Uber nawr wynebu eu cyfrifoldebau, a rhoi’r hawliau dyledus i’w gweithwyr”.

Fodd bynnag, mae Cymdeithas Gweithwyr Proffesiynol a'r Hunangyflogedig (IPSE) wedi mynegi eu syndod gyda’r dyfarniad.

Dywedodd Chris Bryce, prif weithredwr IPSE: “Mae’n rhyfeddol bod y tribiwnlys cyflogaeth wedi rhoi statws gweithwyr i’r ddau yrrwr. Elfen allweddol o fod yn weithiwr yw troi fyny i waith, hyd yn oed os nad ydych chi eisiau.

“Yn amlwg, nid dyma yw’r achos ar gyfer pobl sy’n gyrru gyda Uber – maen nhw’n dewis pryd a pha mor hir maen nhw’n gweithio drwy fewngofnodi neu allgofnodi ar yr ap.”

Ychwanegodd: “Mae pobl sy’n gyrru gyda’r ap Uber yn wirioneddol gwerthfawrogi’r hyblygrwydd sydd ganddyn nhw. Mae IPSE yn poeni bod dyfarnu gyrwyr fel gweithwyr yn cael gwared â’r hyblygrwydd maen nhw’n ei werthfawrogi”.

Mae yna safbwyntiau gwahanol yn cael eu cyflwyno yn yr adroddiad uchod.

Mewn grwpiau o dri neu bedwar, trafodwch eich darganfyddiadau. Ydych chi’n dal yn meddwl fel yr oeddech yng Ngweithgaredd 2 am fod yn hunangyflogedig ar gyfer Uber? Ddylai’r gyfraith newid?

Trafodwch eich barn yn eich grwpiau, yna ysgrifennwch eich barn, naill ai o blaid neu yn erbyn.