Busnes Twristiaeth

MPA 2.2 Canllaw i ganolfannau 2

Cyflwyniad

Mae’r uned hon yn eich galluogi i wella eich gwybodaeth a dealltwriaeth o’r hawliau a’r cyfrifoldebau mae’n rhaid i weithwyr o fewn y diwydiant twristieth gyfeirio atyn nhw wrth gyflogi pobl i weithio o fewn sefydliad twristiaeth.

Yn y dyfodol, gallwch chi fod yn gweithio o fewn y diwydiant twristiaeth. Bydd yr uned hon yn eich helpu i ddeall y gwahanol fathau o gontractau cyflogaeth sydd ar gael i chi a’r oriau gweithio eang ac amrywiol gallwch chi eu hwynebu. Drwy ymchwil, byddwch chi’n darganfod y cyfraddau cyflog gwahanol sy’n cael eu cynnig, yn dibynnu ar y math o gyflogaeth yn y diwydiant twristiaeth.

Mae gan bawb hawl i wyliau, ond a oes gan bawb yr hawl i gyflog gwyliau? Bydd yr uned hon yn helpu chi i ddeall sut mae hawl gwyliau yn cael ei gyfrifo a phwy sy’n cael beth.

Mae pawb yn haeddu derbyn gofal da yn y gweithle. Drwy ymchwil a gwaith grŵp, byddwch yn derbyn gwell dealltwriaeth o werth a phwysigrwydd iechyd a diogelwch yn y gweithle.