Gweithio 9-5, am ffordd i wneud bywyoliaeth – go iawn?
Bydd angen i chi ddeall bod gweithio o fewn y diwydiant twristiaeth ddim o reidrwydd yn golygu gweithio 9-5 o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd angen iddyn nhw werthfawrogi natur 24/7 y diwydiant, a’r ffaith bod oriau gweithio o fewn y diwydiant yn gallu amrywio’n fawr. Dydy rhai sefydliadau, fel meysydd awyr a gwestyau byth yn cau!
Bydd angen i chi ddeall:
- Sefydliadau sydd ar agor 24/7
- Patrymau shifft nos/dydd
Gweithgaredd 1
Mae oriau gweithio o fewn y diwydiant twristiaeth yn amrywio’n sylweddol. Mae rhai cyflogwyr angen i’w gweithwyr weithio patrymau shifft nos a dydd, tra bod eraill yn cyflogi gweithwyr ar batrwm shifft, e.e. 9yb i 5yh.
Gan weithio mewn parau neu grwpiau bach a chan ddefnyddio’r rhyngrwyd, dewiswch ddwy swydd o’r rhestr isod ac ymchwiliwch i’r gwahanol oriau gweithio ar gyfer eich swydd ddewisol. Cyflwynwch eich darganfyddiadau i’ch partner neu aelodau eraill y grŵp.
- Peilot
- Criw caban
- Gyrrwr bws
- Asiant teithio
- Cynrychiolydd gwyliau
- Rheolwr gwesty
- Pen-cogydd
- Person trin bagiau
- Glanhawr gwesty
Gweithgaredd 2
Dewiswch un o’r swyddi rydych wedi ymchwilio iddynt ac esboniwch fanteision ac anfanteision yr oriau gweithio sydd ynghlwm.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U2-2.2-Adnodd3.docx