Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

4.2 & 4.3

Awgrymiadau Cyflwyno

Mae gofyn i chi gyflwyno adroddiad ar gyfer yr AC hwn sy’n gwneud awgrymiadau i gynyddu apêl cyrchfannau i wahanol fathau o dwrist. Bydd angen i chi ysgrifennu gan ddefnyddio iaith berswadiol. Cofiwch AFOREST.

Bydd angen ystyried cyflwyniad eich adroddiad yn ofalus am fod strwythur a fformat gofynnol; dylid cyflwyno’r adroddiad yn ffurfiol. Os bwriadwch gyflwyno eich adroddiad drwy PowerPoint bydd angen i chi ystyried gosodiad o hyd, a gwerthfawrogi defnyddio nodiadau yn hytrach na darllen yn syth o’r sgrin. Rhaid ystyried cynulleidfa a diben, hynny yw, at bwy yr anelir eich adroddiad a pham mae’n cael ei ysgrifennu.                    

Strwythur adroddiad ffurfiol

Mae angen i adroddiadau ffurfiol fod yn glir a gwrthrychol. Dylent fod yn ffeithiol iawn a rhoi gwybodaeth i ddarllenwyr.

Dylech gynnwys:

Tudalen deitl

Tudalen gynnwys

Mae angen i’r pwyntiau canlynol fod mewn paragraffau gydag is-benawdau.

Cyflwyniad byr – yn nodi diben yr adroddiad       

Crynodeb / trosolwg

Canfyddiadau – argymhellir is-benawdau i roi ffocws i bob adran o ganfyddiadau’r sawl sy’n adrodd

Argymhellion – gall y rhain fod mewn fformat pwyntiau bwled

Arddull a threfn

Dylech ysgrifennu mewn iaith safonol a modd uniongyrchol, gan gyflwyno’r pwnc yn fanwl gywir; ni chaniateir bratiaith.

Rhaid defnyddio paragraffau, a phan fydd y pwnc yn newid, dylai is-benawdau fod yn amlwg.

Wrth gyflwyno ar ffurf PowerPoint, bydd y pwyntiau uchod yn berthnasol o hyd, ond bydd mwy o gyfle i gynnwys delweddau. Fe’ch cynghorir hefyd i ddefnyddio cardiau nodiadau, yn hytrach na darllen ac ailadrodd yr hyn sydd wedi’i ysgrifennu ar y sgrin yn unig.

Gweithgaredd 1

A’ch tro chi .........

Naill ai:

Cyflwynwch adroddiad byr sy’n trafod sut y gallai’ch ardal leol gynyddu ei hapêl i dwristiaid.

Neu:

Cyflwynwch adroddiad byr sy’n trafod sut gallai atyniad lleol gynyddu ei apêl i dwristiaid.