Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

4.2 & 4.3

Cyflwyniad

Yn yr adran ddiwethaf, fe lunioch adroddiad am yr hyn a allai ddigwydd yn eich cyrchfan dewisol i gynyddu ei apêl i wahanol fathau o dwrist.       

Yn yr adran hon, bydd angen i chi ddatblygu’ch syniadau am yr hyn a ddylai ddigwydd yn eich cyrchfan dewisol i gynyddu apêl i wahanol fathau o dwrist.     

Ar ôl gwneud ychydig o ymchwil, bydd angen i chi lunio adroddiad sy’n gwneud cyfres o awgrymiadau am yr hyn a ddylai ddigwydd yn eich cyrchfan dewisol i gynyddu ei apêl i wahanol fathau o dwrist.                 

Er mwyn cwblhau eich adroddiad yn llwyddiannus, bydd angen i chi:

  • Wneud ychydig o ymchwil am y ffyrdd y dylai eich cyrchfan dewisol gynyddu ei apêl i dwristiaid.                
  • Meddwl am nifer o syniadau a fyddai’n denu gwahanol fathau o dwristiaid.      
  • Sicrhau bod y syniadau hyn yn bosibl a realistig – mewn geiriau eraill, eu bod yn addas i’r cyrchfan.         
  • Cyflwyno’ch syniadau er mwyn perswadio pobl sy’n darllen eich adroddiad y byddai eich syniadau’n gweithio.