Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

4.2 & 4.3

Sut i gyfiawnhau eich penderfyniadau

Yn syml, ystyr cyfiawnhau eich penderfyniadau yw cefnogi ac egluro pam rydych yn credu y byddai’r awgrymiadau a’r canfyddiadau yn eich adroddiad yn cynyddu apêl eich ardal leol.

Llenwch y grid canlynol â chyfiawnhad yn erbyn y canfyddiadau a’r argymhellion a wnaethoch yn eich adroddiad yn y gweithgaredd blaenorol. Gwnaethpwyd un enghraifft ar eich rhan; efallai yr hoffech ddileu’r ddau bwynt cyntaf oherwydd efallai na fyddant yn berthnasol i’ch canfyddiadau.