Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

4.2 & 4.3

Mathau o Dwrist

Ar ôl ystyried yr uned hon a’r unedau blaenorol, byddwch yn gwybod bod nifer o ffyrdd posibl o grwpio twristiaid. Fodd bynnag, nid yw’n hawdd dosbarthu pob un twrist i grwpiau twt ac, i ryw raddau, mae pob twrist ychydig yn wahanol i bawb arall!                           

Yn y bocsys isod, ceir amrywiaeth o dermau a ddefnyddir i ddisgrifio mathau a grwpiau o dwristiaid. Gallwch ychwanegu at y mathau a’r grwpiau os meddyliwch am dermau eraill. Darllenwch yr wybodaeth ym mhob un o’r bocsys.                   

Pa fathau o bobl sy’n ymweld â’r cyrchfan?

  • Teuluoedd – gyda phlant ifanc, gyda phlant ifanc iawn, gyda phlant yn eu harddegau
  • Parau – parau ifanc, canol oed, parau hŷn         
  • Pobl sengl – ieuengach, hŷn 
  • Pobl ag anableddau – nam ar eu golwg/clyw, symudedd        
  • Grwpiau o bobl – partïon plu a cheiliogod, timau chwaraeon, grwpiau coets

O ble y daethant?         

  • Pobl ar wibdaith o ardaloedd cyfagos
  • Rhannau eraill o’r DU
  • Gwledydd Ewropeaidd cyfagos fel Ffrainc a’r Almaen
  • Rhannau eraill o Ewrop
  • Gwledydd pell lle siaredir Saesneg fel yr Unol Daleithiau ac Awstralia
  • Gwledydd Asiaidd fel India a China
  • Gwledydd eraill 

Beth maen nhw’n mwynhau ei wneud?

  • Torheulo a gweithgareddau ar y traeth
  • Chwaraeon dŵr fel hwylio a hwylfyrddio
  • Gweithgareddau bryn a mynydd – cerdded, dringo, abseilio, beicio mynydd   
  • Beicio 
  • Gwylio chwaraeon
  • Cymryd rhan mewn chwaraeon tîm neu fel unigolion
  • Archwilio safleoedd hanesyddol ac atyniadau diwylliannol
  • Mwynhau bywyd nos, ymweld â chlybiau a barrau
  • Bwyta mewn bwytai braf
  • Ymweld â’r theatr neu’r sinema
  • Ymweld â pharciau hamdden
  • Ymweld â pharciau hamdden plant
  • Ymweld ag atyniadau fferm
  • Mynd i ganolfannau hamdden a phyllau nofio
  • Mynd i ffeiriau pleser ac arcedau
  • Ymuno â theithiau cerdded tywysedig

Faint o arian sydd ganddynt?

  • Teithiwr moethus cefnog
  • Incwm canol 
  • Teulu heb lawer iawn i’w wario
  • Teithiwr ifanc heb lawer iawn o arian
  • Teithiwr busnes sy’n hawlio treuliau
  • Pâr gydag incwm rhesymol      
  • Rhywun ar fudd-daliadau

A ydyn nhw ar eu gwyliau?

  • Ymwelwyr penwythnos
  • Twristiaid busnes
  • Aros wythnos 
  • Aros mwy nag wythnos   
  • Aros gyda ffrindiau a theulu  
  • Ymwelwyr dydd
  • Mynd i briodas      
  • Mynd i gynhadledd neu arddangosfa  

Ymhle y bydden nhw’n hoffi aros?

  • Gwestai 4 a 5 seren
  • Gwestai 2 a 3 seren
  • Gwely a brecwast a thai llety
  • Hostelau
  • Gwersylloedd a pharciau carafanau
  • Porthdai
  • Hunanarlwyo 

Sut maen nhw’n teithio?

  • Cyrraedd yn eu car eu hunain
  • Cyrraedd a theithio o gwmpas y cyrchfan ar fws
  • Cyrraedd ar drên a defnyddio cludiant cyhoeddus
  • Cyrraedd ar drên ond beicio o gwmpas y cyrchfan
  • Defnyddio cludiant twristiaid fel tacsis dŵr a throlïau
  • Defnyddio tacsis

Gweithgaredd

Ar ôl i chi ddarllen am y mathau amrywiol o dwristiaid, mae angen i chi ystyried yn ofalus y mathau a’r grwpiau o dwristiaid y gallai’ch cyrchfan dewisol gynyddu ei apêl i’w denu. Bydd hyn yn rhoi rhai syniadau i chi o ran yr hyn y dylai’r cyrchfan ei wneud i gynyddu ei apêl i wahanol fathau o dwristiaid.

Beth am geisio adnabod 6 neu 7 math o dwrist (yn ôl oedran, gweithgaredd ac ati) gan ddefnyddio’r rhestri uchod.

Gallech ddefnyddio’r wybodaeth o’r adran flaenorol i’ch helpu os oes angen. A allwch adnabod 6 neu ragor o fathau o dwrist y dylai’ch cyrchfan dewisol gynyddu ei apêl i’w denu?    

Dyma enghraifft…

Dylai Borrowwick-on-Sea gynyddu ei apêl i deuluoedd gyda phlant ifanc iawn sy’n aros mewn llety gwely a brecwast. Mae’r teuluoedd hyn fel arfer yn teithio yn eu ceir eu hunain. Prin iawn yw’r atyniadau addas.

Gan ddefnyddio’r enghraifft hon, a allwch feddwl am 6 neu 7 math o dwrist y dylai eich cyrchfan dewisol gynyddu ei apêl i’w denu.