Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 2.1

Adolygu ac Egluro

Adolygu ac Egluro

Bydd y gweithgareddau hyn yn eich cynorthwyo chi i adolygu eich gwaith, a gallu egluro ffactorau sy’n dylanwadu ar broses penderfynu twristiaid.

Wrth benderfynu ble hoffen nhw ymweld ag ef, mae twristiaid yn ystyried nifer o ffactorau gwahanol sy’n cael dylanwad ar eu proses o benderfynu.

  • Ariannol
  • Disgwyliadau
  • Enw da’r cyrchfan
  • Cyfryngau/marchnata
  • Nodweddion y cyrchfan
  • Datblygiadau technolegol

Gweithgaredd 1

Ffactorau ariannol

Eglurwch sut mae ffactorau ariannol yn gallu dylanwadu ar broses penderfynu twristiaid.

Disgwyliadau

Mae’r mwyafrif o dwristiaid yn creu eu disgwyliadau eu hunain am gyrchfan.

Dylech chi feddwl am

  • Ydy’r cyrchfan yn mynd i fod yn ddigon diddorol i gwrdd ag anghenion y twristiaid?
  • A fydd gan y cyrchfan ddigon o adloniant addas i gwrdd ag anghenion y twristiaid?
  • All y cyrchfan gynnig digon o fodd ymlacio i gwrdd ag anghenion y twristiaid?
  • Ydy’r cyrchfan yn gallu cynnig cyffro digonol i dwristiaid penodol?

Gweithgaredd 2

Meddyliwch am wahanol fathau o dwristiaid.

Ceisiwch adnabod disgwyliadau teulu yn teithio gyda dau o blant sy’n 3 oed a 5 oed.

Ydyn nhw'r un anghenion a disgwyliadau ag sydd gan gwpl sy’n teithio heb blant i gyrchfan dewisol?

Eglurwch ddisgwyliadau’r cwpl.