VisitBritain yw’r sefydliad sy’n goruchwylio marchnata o’r DU fel cyrchfan twristiaeth ac mae’n cael ei ariannu gan lywodraeth y DU. Mae’r darn isod yn rhoi ychydig o wybodaeth am y sefydliad a’i berthynas â sefydliadau twristiaeth eraill, a sefydliadau sydd ddim yn ymwneud â thwristiaeth.
Mae Awdurdod Twristiaeth Prydain (BTA) yn rhedeg dau gorff marchnata arbennig ar hyn o bryd, VisitBritain (VB) a VisitEngland (VE). Mae’r ddau yn cael eu hariannu gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) er mwyn hyrwyddo Prydain a Lloegr dramor a gartref fel cyrchfan twristiaeth, ac i arwain a chydlynu’r marchnata domestig o Loegr.
Mae’r ddau gorff marchnata yn gweithio mewn partneriaeth gyda byrddau croeso cenedlaethol Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru er mwyn hyrwyddo delwedd atyniadol o Brydain/Lloegr. Mae’r cyrff yn darparu gwybodaeth twristiaeth ddiduedd ac yn casglu data marchnad hanfodol a chynhyrchu ystadegau ar gyfer diwydiant twristiaeth y DU.
Gyda gweithwyr ymrwymedig mewn 23 swyddfa ledled y byd, mae VisitBritain yn gweithredu mewn 21 marchnad dramor. Mae ein swyddfeydd tramor yn gweithio’n agos gyda gweithwyr diplomyddol a diwylliannol, y fasnach deithio leol a’r cyfryngau er mwyn ysgogi diddordeb ym Mhrydain fel cyrchfan twristiaeth.
Mae VisitEngland yn gweithredu’n bennaf yn y DU, ac wedi’u lleoli yn yr un swyddfeydd â VisitBritain yn Llundain.
Yn y DU, mae gan VB a VE bartneriaethau strategol gyda sefydliadau eraill, fel y Cyngor Prydeinig, Masnach a Buddsoddi'r DU (UKTI), y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, Cymdeithas Trefnwyr Teithiau i mewn i Brydain a Chymdeithas Lletygarwch Prydain.
VisitBritain yw’r enw masnachu ar gyfer Awdurdod Twristiaeth Prydain (BTA) sydd wedi bodoli ers Deddf Datblygu Twristiaeth 1969, gyda VisitBritain yn ei ffurf bresennol ers 2009 pan drosglwyddwyd y cyfrifoldeb ar gyfer marchnata Lloegr i’r Prydeinwyr i VisitEngland.
Ymgyrch GREAT Britain
Mae VisitBritain wedi bod yn rhedeg rhaglen farchnata £100 miliwn uchelgeisiol, ac ymgyrch delwedd ‘GREAT’ a gostiodd sawl miliwn punt, drwy weithio gyda’r Llywodraeth a nifer eang o bartneriaid, yn cynnwys Masnach a Buddsoddi'r DU (UKTI), y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO), y Cyngor Prydeinig a’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).
Gweithgaredd
Ar ôl darllen y darn, atebwch y cwestiynau isod.
- Pa adran o’r llywodraeth sy’n ariannu VisitBritain?
- Esboniwch rolau gwahanol VisitBritain a VisitEngland.
- Enwch un bwrdd croeso cenedlaethol y mae VisitBritain yn gweithio mewn partneriaeth ag ef.
- Enwch ddau sefydliad sydd ddim yn ymwneud â thwristiaeth, sydd â pherthynas strategol gyda VisitBritain a VisitEngland.
- Beth yw enw’r ymgyrch farchnata sy’n cael ei nodi yn yr adnodd?
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U3-3.2-Adnodd6.docx