Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 3.2

Cyflwyniad

Yn yr adran ddiwethaf, rydych wedi ennill dealltwriaeth o’r amrywiaeth o sefydliadau sydd yn rhan o ddatblygiad twristiaeth ac ymwybyddiaeth o’u rolau amrywiol.

Mae sefydliadau fel darparwyr trafnidiaeth a llety ac atyniadau yn hanfodol bwysig ar gyfer apêl cyrchfan. Os nad yw'r rhain, a sefydliadau eraill yn parhau i wneud gwelliannau i’w cynhyrchion, cyfleusterau a gwasanaethau, yna bydd y cyrchfan yn colli’i apêl ac yn cael trafferth i atynnu ymwelwyr.

Mae’r adran hon yn crybwyll y perthnasoedd rhwng y sefydliadau hyn. Yn y mwyafrif o achosion, mae datblygiad twristiaeth yn llwyddiannus pan mae sefydliadau twristiaeth yn cydweithio.

Un o’r enghreifftiau gorau o’r perthnasoedd, sy’n dangos sut mae sefydliadau gwahanol yn cydweithio, yw meysydd awyr a chwmnïau hedfan. Dydy cwmnïau hedfan ddim yn gallu hedfan a glanio’u hawyrennau os nad yw’r maes awyr yn gweithredu’n briodol. Os yw’r maes awyr yn ehangu, mae’r cwmni hedfan yn gallu trefnu mwy o deithiau hedfan.

Mewn amodau tywydd gwael, ni all awyrennau hedfan a glanio os nad yw’r maes awyr ar agor.

Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar y ffyrdd mae gwahanol sefydliadau twristiaeth yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn eu gwneud yn fwy llwyddiannus ac i arwain at ddatblygiad twristiaeth.