Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 1.2 Sefyllfaoedd pan fydd cwsmeriaid yn rhyngweithio â sefydliadau twristiaeth

Gweithdrefnau cwyno

Mae gan y rhan fwyaf o sefydliadau twristiaeth weithdrefnau yn eu lle i ymdrin â chwynion. Mae hyn yn aml yn rhan o system o’r enw safonau gwasanaeth cwsmeriaid, sy’n helpu i sicrhau bod sefydliadau bob amser yn rhoi’r un lefel o wasanaeth.

Mae gweithdrefnau cwyno’n helpu’r cyflogai i wybod beth i’w wneud pan gaiff gŵyn gan gwsmer. Mae’r blwch isod yn dangos gweithdrefn gwyno nodweddiadol.

Wrth ymdrin â chwyn, dylech gofio’r rheolau canlynol:                 

  • Gwrando’n ofalus ar y cwsmer a nodi gwybodaeth bwysig              
  • Peidio â thorri ar draws y cwsmer, dadlau na gwneud esgusodion
  • Cydymdeimlo a dangos eich bod yn ymboeni am sefyllfa’r cwsmer
  • Ceisio datrys y broblem yn syth           
  • Os nad ydych yn gallu datrys y broblem ar unwaith, addo i’r cwsmer y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i’r gŵyn                   
  • Ymchwilio i’r gŵyn wedyn a chymryd camau priodol              
  • Sicrhau bod gennych holl fanylion personol perthnasol y cwsmer er mwyn gallu cysylltu ag ef            
  • Sicrhau bod ffurflen gwyno’r cwmni wedi’i llenwi’n gywir 
  • Os teimlwch nad ydych yn gallu ymdrin â’r gŵyn, cysylltu â rheolwr ar unwaith              

Gweithgareddau

Chwiliwch am enghreifftiau o weithdrefnau cwyno ar gyfer sefydliadau twristiaeth a enwir gan ddefnyddio peiriannau chwilio yna copïwch a gludwch enghraifft dda i’ch ffeil.