Mae pob cyflogai’n hoff o gael canmoliaeth gan gwsmeriaid. Yn aml, bydd cwsmeriaid yn diolch i aelodau unigol o staff, ond mae’n anodd cofnodi’r holl glod a geir.
Un ffordd y mae hyn wedi newid yw, ers cyflwyno’r rhyngrwyd, gall cwsmeriaid drosglwyddo eu canmoliaeth i sefydliadau twristiaeth drwy safleoedd adolygu fel Trip Advisor.
Mae’r sylwadau hyn yn fodd i gwsmeriaid roi diolch a chlod, ond maent hefyd yn gyfle i reolwyr sefydliadau twristiaeth weld beth maen nhw’n ei wneud yn iawn a gwneud gwelliannau i lefel y gwasanaeth cwsmeriaid a ddarparant.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-1.2-Adnodd10.docx