Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 1.2 Sefyllfaoedd pan fydd cwsmeriaid yn rhyngweithio â sefydliadau twristiaeth

Rhoi’r cyfan ar waith

Rydych bellach wedi ystyried amrywiaeth o sefyllfaoedd pan fydd cwsmeriaid yn rhyngweithio â sefydliadau twristiaeth. Gallwch yn awr arddangos eich dealltwriaeth drwy ddisgrifio’r sefyllfaoedd hyn mewn sefydliad twristiaeth a astudiwyd gennych.

Gwerthiannau

Ble mae cynhyrchion y sefydliad yn cael eu gwerthu i gwsmeriaid?

A werthir y cynhyrchion wyneb yn wyneb bob amser neu a ellir gwerthu’r cynhyrchion ar-lein neu dros y ffôn?

Pa gynhyrchion a gwasanaethau ychwanegol y gellir eu gwerthu i gwsmeriaid? Rhowch rai enghreifftiau.

A ellir gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau cyn i’r cwsmer ymweld â’r sefydliad neu ar ddechrau’r ymweliad? A ellir gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau ychwanegol yn ystod yr ymweliad ac ar ddiwedd yr ymweliad?

Cyngor

Disgrifiwch enghreifftiau o ryngweithio lle gellir rhoi cyngor i gwsmeriaid.

A roddir y cyngor hwn wyneb yn wyneb bob amser?

Awgrymwch rai sefyllfaoedd lle gellid rhoi cyngor anffurfiol gan gyflogeion na fyddant fel arfer yn dod i gysylltiad â chwsmeriaid efallai.

Gwybodaeth am gynnyrch

Meddyliwch yn ofalus am gyflogeion eich sefydliad y gellid disgwyl bod ganddynt wybodaeth gynnyrch dda. Rhestrwch rai a disgrifiwch y math o bethau y bydd angen iddynt eu gwybod.

Awgrymwch pam mae’r wybodaeth hon yn bwysig i gwsmeriaid.

Ymdrin â chwynion

Disgrifiwch gŵynion cyffredin y gallai eich sefydliad eu cael. I ble fydd cwsmeriaid yn mynd pan fydd angen iddynt wneud cwyn?      

Disgrifiwch agwedd y staff yn eich sefydliad dethol sy’n gorfod ymdrin â chwynion cwsmeriaid.         

A oes gan eich sefydliad dethol weithdrefnau gosodedig i ymdrin â chwynion? A allwch eu disgrifio nhw?

A oes gan y sefydliad gyfres o safonau ansawdd gwasanaeth cwsmeriaid? 

Canmoliaeth

A oes gan eich sefydliad dethol adolygiadau ar Trip Advisor neu ar wefannau adolygu eraill?

Disgrifiwch rai agweddau ar eich sefydliad y mae cwsmeriaid wedi’u canmol.

Sefyllfaoedd eraill

Efallai bydd sefyllfaoedd eraill lle mae eich sefydliad dethol yn rhyngweithio â’i gwsmeriaid.

Er enghraifft:

  • Cael a throsglwyddo negeseuon     
  • Rhoi cymorth        
  • Cadw cofnodion
  • Ymdrin â phroblemau 
  • Cynnig gwasanaethau ychwanegol

Disgrifiwch y rhyngweithio hyn os yw’n digwydd yn eich sefydliad dethol.