Gellir defnyddio ffonau modern mewn llawer o ffyrdd gan sefydliadau a’u cwsmeriaid.
Gellir cael yn hawdd at wybodaeth ar wefannau, gellir defnyddio apiau at ystod o ddibenion a gellir sefydlu cyfathrebu dwyffordd rhwng sefydliadau twristiaeth a’u cwsmeriaid.
Gellir defnyddio ffonau fwyfwy i helpu ‘teithio di-docyn’ lle na ddarperir fersiynau papur o docynnau a dogfennau teithio eraill ond gall cwsmeriaid ddefnyddio fersiynau electronig wedi’u storio ar eu ffonau clyfar.
Bydd y fideo hwn yn dangos yr amryw ffyrdd y gellir defnyddio technoleg y ffonau clyfar gan sefydliadau twristiaeth a’u cwsmeriaid.