Mae llawer o sefydliadau twristiaeth yn deall mor bwysig yw sicrhau bod cwsmeriaid yn dychwelyd i’r sefydliad am eu bod wedi cael gwasanaeth da.
Mae sefydliadau twristiaeth yn cynnig amryw gynlluniau, cynhyrchion a gwasanaethau i’w cwsmeriaid presennol, cwsmeriaid sy’n dychwelyd a chwsmeriaid rheolaidd. Rhoddir gwahanol enwau i’r rhain.
Gweithgaredd
Ar gyfer pob un o’r termau isod, ceisiwch egluro beth yw’r term a rhoi enghraifft. (Efallai bydd angen i chi wneud ychydig o ymchwil i gael gwybod ystyr rhai o’r termau).
- Cynllun ffyddlondeb
- Agor yn gynnar/hwyr
- Aelodaeth flynyddol
- Uwchraddio
- Cynigion arbennig
- Archebu cynnar
- Prisiau gostyngedig
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-2.1-Adnodd3.docx