I ddangos eich dealltwriaeth o sut mae sefydliadau twristiaeth yn gweithio, mae angen i chi lunio tabl sy’n dangos sut mae un sefydliad twristiaeth dewisol yn bodloni anghenion y gwahanol grwpiau cwsmeriaid a nodwyd.
Mae’r tabl isod yn dangos sut y dylid llunio’r tabl. Mae angen i chi lenwi’r tabl gan roi enghreifftiau clir o’r ffordd y mae’ch sefydliad dewisol yn bodloni anghenion gwahanol fathau o gwsmer. Mae’n ddigon posibl y bydd eich tabl gorffenedig yn mynd ar fwy nag un dudalen. Gellid ei lunio ar bapur A3 neu ar fwy nag un ochr o A4.
Cofiwch roi enghreifftiau sy’n benodol i’ch sefydliad dewisol gymaint â phosibl.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-2.1-Adnodd11.docx