Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 1.2 Disgrifiwch nodweddion gwahanol fathau o dwristiaid

Cyflwyniad

Ar gyfer yr AC hwn, bydd angen i chi ddisgrifio’r nodweddion ar y gwahanol fathau o dwrist a restrir yng nghynnwys y fanyleb.                

Rhestrir isod nodweddion y gwahanol fathau o dwrist y bydd angen i chi eu deall a gallu eu disgrifio.                        

Nodweddion    

  • Diben yr arhosiad – pam mae unigolion neu grwpiau o dwristiaid wedi dewis aros mewn cyrchfan penodol i dwristiaid? Ai at ddibenion hamdden neu fusnes?
  • Oedran – a yw cyrchfannau i dwristiaid yn benodol i oedran? Pam mae grwpiau oedran penodol yn dewis un cyrchfan yn lle un arall?
  • Diwylliannol – gallai hyn gynnwys twristiaid sy’n ymweld â rhai cyrchfannau am eu bod am gael profiad o’r diwylliant gwahanol a gallai gynnwys traddodiadau, bwyd neu iaith.                                
  • Economaidd-gymdeithasol – a ydy eu sefyllfa economaidd-gymdeithasol yn effeithio ar benderfyniadau twristiaid? Os felly, sut mae hyn yn effeithio ar eu dewisiadau o gyrchfan?       
  • Diddordebau – i ble fyddai twrist yn dewis mynd i fodloni ei ddiddordeb neu gymryd rhan mewn rhywbeth newydd? Mae angen i’r dysgwyr werthfawrogi nad yw pob cyrchfan twristiaeth yn cynnig yr un cyfleusterau ac atyniadau.

Gwahanol fathau o dwrist 

  • Hamdden – twristiaid yw’r rhain sy’n teithio yn syml at ddibenion hamdden. Nid yw’r gwyliau, y gwyliau byr, y penwythnos i ffwrdd, neu beth bynnag ydyw, yn gysylltiedig ag unrhyw ddiben gwaith o gwbl; maen nhw’n mynd yn eu hamser eu hunain ac er eu mwynhad eu hunain.                    
  • Busnes – y gwrthwyneb llwyr i’r uchod. Mae’r twristiaid hyn oddi cartref ar fusnes. Efallai y cymerant ran mewn gweithgareddau hamdden tra byddant i ffwrdd ond prif ddiben eu hymweliad yw gwaith/busnes.
  • Gwahanol oedrannau – gellir rhannu hyn yn ôl  
    • plant – babanod, plant bach, plant hŷn a’r glasoed  
    • oedolion – oedolion ifanc, oedolion canol oed, pobl hŷn   
    • Gwahanol ddiwylliannau – mae pobl o wahanol ddiwylliannau’n disgwyl cael eu parchu a disgwyl i’w credoau a’u hymddygiad gael eu deall. Mae diwylliant Prydeinig yn wahanol iawn i ddiwylliant Tsieineaidd, e.e. mae’r bwydydd yn wahanol, mae’r traddodiadau’n wahanol. Diwylliant sy’n ein gwneud ni fel yr ydym.