Economaidd-gymdeithasol yw’r term a roddir i’r cyfuniad o ffactorau cymdeithasol ac economaidd a allai effeithio ar ddewis unigolyn o gyrchfan twristiaeth, neu a allai gyfrannu at y dewis hwnnw.
Ymhlith y prif ffactorau y mae angen i chi eu gwerthfawrogi mae
- Amser sydd ar gael – a oes gen i ddigon o amser gwyliau?
- Maint yr incwm gwario – a ydw i’n gallu ei fforddio?
- Symudedd personol – a allaf gyrraedd yno ac, os felly, beth fyddai’r dewis cludiant gorau?
Gweithgaredd 1
Darllenwch y sefyllfaoedd canlynol, mae un yn enghraifft i’ch tywys. A allwch enwi’r ffactorau economaidd-gymdeithasol a allai ddylanwadu ar benderfyniad yr unigolyn?
Gweithiwch mewn parau neu grwpiau bach.
Sefyllfa – enghraifft.
Mae Mr a Mrs Williams yn cynllunio eu gwyliau ar gyfer yr haf. Mae ganddynt dri o blant a hoffent fynd i ffwrdd am bythefnos o wyliau. Cafodd Mr Williams ddyrchafiad yn ddiweddar i swydd rheolwr yn ei weithle, ac mae’n cael car cwmni. Maen nhw am deithio i Ffrainc mewn car neu logi fan wersylla, a fyddai’n dipyn o hwyl i’r plant.
Ateb enghreifftiol.
Mae nifer o ffactorau economaidd-gymdeithasol y gallaf eu henwi yn y sefyllfa.
- Mae ganddynt dri o blant felly ni fydd yn wyliau rhad, bydd rhaid iddynt gynilo a chynllunio’n ofalus at y gwyliau.
- Cafodd Mr Williams ddyrchafiad felly bydd yn ennill mwy o arian, a bydd hyn yn helpu llawer gyda chost y gwyliau.
- Bydd mynd i ffwrdd am bythefnos yn golygu bydd rhaid i Mr Williams gael amser i ffwrdd o’r gwaith. Os yw eisoes wedi cymryd amser i ffwrdd, efallai na fydd ganddo ddigon o amser gwyliau yn weddill, ond fel arall dylai fod yn iawn.
Eich tro chi
Darllenwch y sefyllfaoedd cyn ceisio gwneud 3 sylw am ffactorau economaidd-gymdeithasol pob un.
Sefyllfa 1
Gwahoddwyd David Atkins i briodas ei ffrind yn Cyprus. Mae ei ffrind am i David aros am wythnos mewn gwesty moethus pum seren lle bydd y briodas yn cael ei chynnal. Mae David wir eisiau mynd ond cafodd ei ddiswyddo’n ddiweddar ac mae’n chwilio am swydd newydd.
Sefyllfa 2
Mae Suzie Wan newydd sicrhau ei swydd gyntaf! Mae wrth ei bodd am iddi gael ei swydd ddelfrydol yn y byd ffasiwn, a bydd yn cael teithio llawer gyda’i gwaith. Mae ffrindiau Suzie yn mynd i Marbella am benwythnos mewn sba, o ddydd Iau i ddydd Llun, ac wedi ei gwahodd i fynd hefyd. Nid yw Suzie yn gwybod sut i ofyn i’w rheolwr newydd am amser i ffwrdd am ei bod yn newydd i’r swydd, ac nid yw’n siŵr ychwaith a yw hi’n gallu fforddio’r daith am mai hon yw ei swydd gyntaf ac nid yw wedi cael unrhyw enillion blaenorol.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U3-1.2-Adnodd5.docx