Diben yr arhosiad
Pam mae pobl yn penderfynu aros mewn cyrchfannau penodol?
Ar y cyfan, mae pobl yn teithio at ddibenion hamdden neu fusnes. Mae twristiaid hamdden yn aros oddi cartref er mwyn mwynhau ac yn teithio yn eu hamser rhydd eu hunain, felly mae eu hanghenion yn wahanol iawn i dwristiaid busnes sy’n teithio ac yn aros at ddibenion gwaith.
Gweithgaredd 2
Disgrifiwch ddwy enghraifft arall o wahanol ddibenion aros, gydag un ohonynt yn hamdden a’r un arall yn fusnes.
Gweithgaredd 3
Mae pobl fusnes yn defnyddio amryw ddulliau cludiant wrth deithio i’w cyrchfan.
Nid pob twrist busnes sy’n teithio dosbarth cyntaf ar drenau ac awyrennau; bydd rhai’n gwneud hynny, ond llawer yn dewis peidio.
Eglurwch pam efallai y bydd twristiaid busnes yn dewis teithio dosbarth economi yn lle dosbarth cyntaf wrth deithio i’r lle y byddant yn aros ynddo. Rhowch enghreifftiau i gefnogi’ch ateb.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U3-1.2-Adnodd2.docx