Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 2.2 Eglurwch sut mae sefydliadau twristiaeth yn bodloni disgwyliadau gwahanol fathau o gwsmer

Costau ac ansawdd

Mae llawer o sefyllfaoedd lle bydd cwsmeriaid sefydliadau twristiaeth yn disgwyl talu mwy am well ansawdd o wasanaeth. Un enghraifft dda yw’r rheilffyrdd, lle mae gwahaniaeth rhwng cerbydau Safonol a cherbydau Dosbarth Cyntaf. Yn y rhai Dosbarth Cyntaf, bydd y seddi’n fwy cyffyrddus a bydd lluniaeth am ddim ar gael. 

Mae’r un yn berthnasol i wyliau, gwestai a chynhyrchion eraill sefydliadau twristiaeth.

Gweithgaredd

Gan ddefnyddio gwefannau, gwnewch ymchwil i ddangos sut mae pris yn amrywio gydag ansawdd y cynnyrch a’r gwasanaeth.