Fel llawer o sefydliadau, rhaid i Stadiwm Liberty fodloni anghenion gwahanol fathau o gwsmer...
- Cefnogwyr/aelodau achlysurol
- Deiliaid tocyn tymor
- Cefnogwyr timau ‘i ffwrdd’
- Cefnogwyr ag anghenion arbennig
- Deiliaid seddi dethol
- Pecynnau lletygarwch
Mae rhai cwsmeriaid yn talu llawer mwy i wylio gêm pêl droed nag eraill. Mae’r rheini sy’n talu mwy yn disgwyl lefel uwch o wasanaeth a chyfleusterau o ansawdd.
Stadiwm Liberty Abertawe
Gweithgaredd 1
Gwrandewch ar reolwr lletygarwch yn y Stadiwm Liberty yn Abertawe yn esbonio’r cyfleoedd lletygarwch sydd ar gael i gefnogwyr
Gweithgaredd 2
Ar ôl i chi wrando ar y fideo, rhowch rai enghreifftiau o’r pecynnau lletygarwch sydd ar gael a’u costau. Efallai hoffech chi edrych ar wefan C.P.D Dinas Abertawe er mwyn derbyn gwybodaeth bellach.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-2.2-Adnodd5.docx