Yn yr adran ddiwethaf, buom yn archwilio’r ystod fawr o anghenion cwsmeriaid y mae’n rhaid i sefydliadau twristiaeth ddarparu ar eu cyfer. Yn ogystal ag anghenion, mae gan gwsmeriaid ddisgwyliadau hefyd.
Efallai y byddwch yn talu am wyliau fisoedd ymlaen llaw. Byddwch wedi edrych ar bamffledi ar-lein a dewis lle gwyliau a gwesty. O’r delweddau a’r wybodaeth a roddwyd gan y gweithredwr teithiau, bydd gennych ddisgwyliadau am y gwyliau a brynoch.
Mae’r un yn wir am westai, atyniadau a chynhyrchion twristiaeth eraill. Cyflenwir delweddau a gwybodaeth gan sefydliadau twristiaeth i annog cwsmeriaid i brynu eu cynhyrchion. Ond a fodlonir y disgwyliadau yn y pen draw?
Yn aml iawn, bydd gan gwsmeriaid ddisgwyliadau uwch os gwariant fwy o arian. Gellid cymhwyso hyn i sedd fusnes ar awyren neu ystafell mewn gwesty pum seren. Yn gyffredinol, pan fydd cwsmeriaid yn talu mwy o arian, mae eu disgwyliadau’n uwch.
Os na fodlonir disgwyliadau cwsmeriaid, mae profiad y cwsmer yn debygol o fod yn wael a gallai’r sefydliad golli cwsmer.
Archwilir y materion hyn yn yr adran hon a bydd gofyn i chi ystyried disgwyliadau’r cwsmer mewn un sefydliad twristiaeth.