Busnes Twristiaeth

MPA 1.1 Disgrifio ffurfiau o berchenogaeth ar gyfer sefydliadau twristiaeth

Carfanau Pwyso

Mae carfanau pwyso, fel Tourism Concern, yn chwarae rôl bwysig mewn datblygiad twristiaeth. Mae’r sefydliadau yn rhoi pwysau ar lywodraethau er mwyn sicrhau bod ardaloedd ble mae twristiaeth yn datblygu yn cael eu trin yn deg, a bod cymunedau lleol yn gallu ffynnu yn economaidd ac yn gymdeithasol. Hynny yw, bydd bobl leol yn profi rhai manteision twristiaeth, a bydd ansawdd eu bywydau yn gwella.

Mae Tourism Concern hefyd yn credu, ac yn ymdrechu i fabwysiadau polisïau ac ymarferion ‘gwyrdd’ effaith isel. Mae'r rhain yn cynnwys prynu a hyrwyddo cynhyrchion masnach deg.

Cred carfanau pwyso fel Tourism Concern y dylai grwpiau bregus fel menywod, plant a lleiafrifoedd gael eu trin yn deg wrth weithio o fewn y diwydiant twristiaeth.

Mae carfanau o’r fath eisiau twristiaeth i fod yn brofiad positif a buddiol i deithwyr a’r gwesteiwyr, fel bod y naill ochr gyda’r un ddealltwriaeth, empathi a pharch.

Gweithgaredd 1

Astudiaeth achos Tourism Concern

Mae hwn yn un o ymgyrchoedd Tourism Concern; mae’n amlinellu bwriad ac amcanion y sefydliad.

Yn gweitho mewn parau, crëwch boster yn hyrwyddo pwrpas ‘Tourism Concern’. Sicrhewch eich bod yn cynnwys delweddau er mwyn pwysleisio nodau ac amcanion Tourism Concern.

Gweithgaredd 2

Gallwch chi adnabod i ba sector mae Tourism Concern yn perthyn? Preifat, Cyhoeddus, Ddim am elw (Gwirfoddol).

Wedi i chi ddarganfod y berchenogaeth gywir, eglurwch pam ei fod yn perthyn i’r sector hwnnw.

Gweithgaredd 3

Heriwch eich hunain!

Mewn parau neu grwpiau bach, a gan ddefnyddio’r rhyngrwyd i ymchwilio, ceisiwch weld sawl carfan bwyso twristiaeth eraill gallwch eu darganfod (anelwch am dri neu bedwar carfan bwyso wahanol).

Ceisiwch ymchwilio ac adnabod perchenogaeth pob carfan bwyso ac eglurwch eu bwriadau.