Busnes Twristiaeth

MPA 1.1 Disgrifio ffurfiau o berchenogaeth ar gyfer sefydliadau twristiaeth

Merlin Entertainments

Cymerwch gip ar y wybodaeth isod, mae’n ddiddorol dros ben!

Merlin Entertainments yw un o gwmnïau adloniant mwyaf y byd. Mae gan Merlin 123 atyniad mewn 24 gwlad ar draws pedwar cyfandir. Merlin sydd berchen ar Alton Towers, Parc Thorpe a Madame Tussauds yn y DU, ac atyniadau mawr eraill.

‘Ein bwriad yw darparu profiadau unigryw, cofiadwy a gwerth chweil i filiynau o ymwelwyr ar draws ein hystâd sy’n tyfu. Ni fyddwn yn gallu cyflawni hyn oni bai am ymrwymiad ac angerdd ein tîm a chryfder ein brandiau a fydd wastad yn nodedig, heriol ac arloesol. Gyda phob parch ac i bob grŵp o gyfranddalwyr, bydd Merlin wastad yn gwmni cyffrous i fod yn rhan ohono’

Gweithgaredd

Gan ddefnyddio gwefan y sefydliad, ymchwiliwch Merlin Entertainments a chrëwch ffeil o ffeithiau a fydd yn annog pobl ifanc, yn debyg i chi, i weithio i’r cwmni.