Mae yna dri senario wedi’u gosod isod sy’n profi eich dealltwriaeth o fathau o fusnesau a pherchenogaeth.
Senario 1
Mae caffi a bar bistro RJ wedi’i leoli mewn tref glan môr arfordirol o fewn pellter byr o’r traeth lleol a llwybrau cerdded arfordirol yn ne-ddwyrain Lloegr. Mae gan y caffi/ bar bistro seddau tu mewn yn ogystal â theras yn wynebu’r môr. Mae’r hyn sydd gan y caffi/bar bistro i’w gynnig yn apelio at amrywiaeth o oedrannau, o ymwelwyr yn dod mewn am goffi i grwpiau yn mwynhau’r cyfleusterau yn y nos. Mae gan y caffi/bar bistro gerddoriaeth fyw yn achlysurol, yn darparu adloniant i’w gwsmeriaid.
Mae’r perchennog, Mrs Rhian James, yn dymuno agor ail gaffi/bar bistro yn dilyn llwyddiant yr un yma. Hoffai i’w ffrind ymuno â hi ar ei menter newydd gan ei bod yn credu y byddent yn fwy llwyddiannus gyda’i gilydd.
Gweithgaredd 1
Pa derm islod sy’n disgrifio’r ffurf bresennol o berchenogaeth caffi/bar bistro RJ?
- Unig fasnachwr
- Partneriaeth
- Cwmni cyfyngedig
Enwch ffurf arall o berchenogaeth nad yw’n cael ei enwi yn y tabl uchod.
Mae Mrs Rhian James eisiau ehangu ei busnes drwy agor caffi/bar bistro tebyg. Mae hi wedi gwahodd ei ffrind i ymuno â hi.
- Pa fath o fusnes fydd hyn?
- Pa gyngor byddwch chi’n ei roi i Mrs Rhian James am newid ei ffurf o berchenogaeth? Meddyliwch am y manteision a’r anfanteision. Ysgrifennwch eich ateb yn y bocs isod.
Senario 2
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn sefydliad twristiaeth mawr sy’n cael ei ariannu gan grantiau o sefydliadau fel Y Loteri Genedlaethol, Loteri Treftadaeth, Chwaraeon Lloegr a’r Cyngor Celfyddydau, yn ogystal â rhodd-daliadau o’r cyhoedd drwy gynlluniau aelodaeth a thocynnau ymweld am ddiwrnod. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol nifer o adeiladau wedi’u gwasgaru ar draws y DU, ac yn denu ymwelwyr o’r DU ac yn fyd-eang. Mae llawer o adeiladau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn atyniadau ymwelwyr poblogaidd.
Gweithgaredd 2
Cwblhewch y tabl canlynol drwy dicio naill ai'r golofn Cywir neu Anghywir er mwyn disgrifio perchenogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Senario 3
Mae Parc Thema Daredevil yn atyniad ymwelwyr poblogaidd sy’n cynnig amrywiaeth o antur a reidiau i deuluoedd. Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus ‘Themed Leisure’ sy’n berchen Daredevil ac sy’n gyfrifol am 20 o atyniadau i ymwelwyr, yn cynnwys parciau dŵr, sŵau, parciau hamdden ac acwaria. Mae Themed Leisure PLC yn cyflogi 1,000 o weithwyr parhaol, a 2,000 o weithwyr dros dro yn ystod anterth y tymor. MaeThemed Leisure PLC yn fusnes dynamig a chystadleuol iawn sy’n anelu i arwain atyniadau ymwelwyr y byd drwy barhau i dyfu a diweddaru cyfleusterau presennol.
Gweithgaredd 3
Mae gwahanol sectorau'r diwydiant twristiaeth yn cydweithio’n aml fel bod pawb yn cael budd. Eglurwch sut gall darparwr gwesty a darparwr trafnidiaeth gydweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol er mwyn profi budd cyfartal.
Gweithgaredd 4
Themed Leisure PLC is a public limited company. Make a selection that correctly completes the sentence about a plc.
Gweithgaredd 5
Cwblhewch y paragraff canlynol drwy lenwi’r gwagleoedd gyda’r gair fwyaf addas o’r rhestr isod.
Gweithgaredd 6
Mae cwmni cyfyngedig cyhoeddus (plc) yn fath o sefydliad sydd yn addas ar gyfer busnesau mawr yn unig. Mae cwmni cyfyngedig cyhoeddus (plc) yn gorfod cael isafswm o £50,000 o gyfalaf cyfranddaliadau awdurdodedig. Mae modd iddo wahodd y cyhoedd cyffredin i brynu ei gyfranddaliadau , ac nid oes terfyn ar y nifer o gyfranddalwyr y gall plc gael. Mae modd gweld cyfranddaliadau mewn plc ar y gyfnewidfa stoc.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U2-1.1-Adnodd9.docx