Wrth i chi weithio drwy’r uned hon, cewch chi gyfle i ddysgu a deall sut mae sefydliadau twristiaeth yn gweithredu fel busnesau. Gellir adnabod rhai fel mentrau bach neu ganolig, ac mae eraill yn fusnesau graddfa fawr, gyda rhai yn gweithredu ar seiliau lleol neu ranbarthol, rhai yn genedlaethol a’r busnesau graddfa fawr yn gweithredu yn rhyngwladol neu hyd yn oed yn fyd-eang. Efallai byddwch yn gweld hyn yn anodd ei gredu, ond nid creu elw yw amcan pob sefydliad busnes. Bydd yr AC hwn yn eich cynorthwyo i ddeall pam.
Mae menter ac arloesedd yn hanfodol er mwyn bod yn llwyddiannus ym marchnad gystadleuol enfawr twristiaeth. Ym mlynyddoedd diwethaf, mae yna nifer o sefydliadau twristiaeth wedi methu ac wedi gorfod dod â masnachu i ben, ond ar y llaw arall, mae sefydliadau eraill wedi cychwyn, ac mae nifer wedi tyfu ac ehangu.
Mae busnesau twristiaeth yn eang ac yn amrywiol, a bydd cyfle i chi edrych ar yr amrywiaeth o fewn prif gydrannau twristiaeth, sy’n cynnwys:
- Trafnidiaeth
- Llety
- Atyniadau
- Asiantaethau teithio
- Trefnwyr teithio
- Gwasanaethau cefnogi
- Digwyddiadau
- Carfanau pwyso
Byddwch yn dysgu am sawl ffurf o berchenogaeth a sut bod modd eu dosbarthu i sectorau Preifat, Cyhoeddus a Gwirfoddol. Cewch gyfle i ddeall sut mae pob ffurf o fusnes yn cael eu sefydlu, a manteision ac anfanteision pob un. Efallai eich bod yn ystyried gweithio yn y diwydiant twristiaeth, ac yn ddigon mentrus i sefydlu eich busnes eich hunain rhyw bryd yn y dyfodol. Bydd yr uned yma’n ffurfio’r sylfaen ar gyfer eich gwybodaeth a dealltwriaeth; dechreuodd Richard Branson y Grŵp Virgin fel unig fasnachwr, ond edrychwch arno heddiw!