Mae yna ffurfiau gwahanol o berchenogaeth busnes; mae busnesau yn gweithredu yn wahanol yn dibynnu ar eu ffurf o berchenogaeth. Rhowch gynnig ar y gweithgareddau isod er mwyn eich cynorthwyo i ddatblygu eich gwybodaeth am wahanol fathau o berchenogaeth busnes.
Darllenwch y tudalennau gwybodaeth gefndir yn gyntaf, yna, rhowch gynnig ar y gweithgareddau.
Gweithgaredd 1
Mae Jack Stewart yn ddi-waith yn dilyn profiad o weithio i gwmni twristiaeth mawr. Mae ef nawr eisiau dechrau cwmni ei hunan a bod yn hunangyflogedig.
- Pa ffurf o berchenogaeth busnes yw’r dewis gorau ar ei gyfer?
- Pa gyngor sydd gennych i Jack am y risgiau sydd ynghlwm?
Gweithgaredd 2
Mae Ella Jones wedi bod yn rhedeg busnes twristiaeth bach fel unig fasnachwr am 10 mlynedd. Mae Ella yn ystyried gofyn i’w chwaer i fod yn bartner yn y busnes.
- Beth mae hyn yn ei olygu i Ella a’i busnes?
-
Os bydd y busnes yn ehangu ac yn dod yn fwy llwyddiannus, pa ffurfiau eraill o opsiynau perchenogaeth sydd gan Ella? Pa gyngor byddwch yn ei roi i Ella?
Gweithgaredd 3
Mae cwmni cyfyngedig Grŵp Virgin yn cyflogi 50,000 o bobl ar draws 34 gwlad wahanol, ond mae’r cwmni dal yn gwmni cyfyngedig preifat (‘Ltd’). Sut mae un dyn, Richard Branson, yn llwyddo i reoli’r cwmni?
Gweithgaredd 4
Mae Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus yn fusnes sydd yn berchen i gyfranddalwyr sydd wedi prynu cyfranddaliadau ar y farchnad stoc.
Os nad yw’r busnes yn creu’r cyfanswm o elw sy’n ddisgwyliedig, sut mae hyn yn effeithio ar y cyfranddaliadau?
Gweithgaredd 5
Yn y gwagle isod, eglurwch y gwahaniaethau mawr rhwng unig fasnachwyr a chwmni cyfyngedig preifat. Rhowch enghreifftiau o dwristiaeth i gefnogi eich ymateb.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U2-1.1-Adnodd6.docx