Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 1.1 Datblygu Cyrchfannau Twristiaeth y DU

Cyflwyniad

Tynnwyd y ffotograffau uchod yn ddiweddar ar lan y môr yn Brighton.  Brighton yw un o’r trefi glan môr enwocaf yn y DU a bu’n gyrchfan twristiaeth ers rhyw 200 o flynyddoedd.            

Dychmygwch wrth i chi sefyll yn yr ardal lle tynnwyd y ffotograffau fod amser yn dechrau symud tuag yn ôl! Beth fyddai’n digwydd, yn eich barn chi?

Y peth cyntaf a ddigwyddai fyddai’r cwrs golff gwallgo’n diflannu. Byddai’r ceir yn dechrau edrych yn hŷn ac, yn y pen draw, byddem yn gweld ceffylau a cherti yn eu lle. Ymhellach yn ôl eto, byddai’r torheulwyr yn gwisgo mwy o ddillad ac yn eistedd yn hytrach na gorwedd ar y traeth. Byddai rhai yn gwisgo dillad ffurfiol a hetiau!

Ymhellach yn ôl eto, ni fyddai’r pier yno. Byddem hefyd yn gweld y gwestyau crand yn cael eu hadeiladu, a’r bobl gefnog yn mynd a dod. Pe byddai amser yn mynd yn ôl rhyw 300 mlynedd, mae’n siŵr na welsem ddim ond y traeth a thrac yn arwain ato.  

Byddai hwn yn ddatblygiad twristiaeth o chwith!

Mae’r holl gyrchfannau twristiaeth wedi datblygu’n barhaus dros amser, a hynny dros 200 o flynyddoedd yn achos Brighton.

Ar ryw adeg yn y gorffennol, buasai glan môr Brighton rywbeth yn debyg i’r olygfa isod.              

Mae adeiladu atyniadau a chyfleusterau newydd fel gwestyau a mathau newydd o gludiant yn helpu cyrchfannau i barhau i ddarparu rhywbeth newydd i dwristiaid, er mwyn eu hannog i ddychwelyd.              

Dyna yw hanfod yr uned hon. Byddwch yn astudio sut mae cyrchfannau twristiaeth wedi datblygu dros amser ac, yn bwysicach byth, sut maent yn bwriadu datblygu yn y dyfodol.