Pa mor hawdd mae cyrraedd lle
Mae hygyrchedd cyrchfan twristiaeth yn golygu pa mor hawdd yw ei gyrraedd. Er enghraifft, Llundain:
- mae yng nghanol nifer o brif feysydd awyr, gan gynnwys Heathrow a Gatwick
- mae nifer o draffyrdd a phriffyrdd yn arwain yno
- mae nifer o brif orsafoedd trenau yn cysylltu’r lle â gweddill Lloegr a Chymru
- mae trenau cyflym yn cyrraedd yno o ddinasoedd eraill yn Ewrop yn rheolaidd bob dydd
Mae hyn yn golygu bod Llundain yn gyrchfan hygyrch iawn. Mae hyn yn bwysig i bobl sy’n ymweld â Llundain ar eu gwyliau ond hefyd i’r nifer fawr o bobl fusnes sy’n ymweld â Llundain o bedwar ban byd.
London eye
Gweithgaredd 1
Awgrymwch pam efallai y bydd rhai ymwelwyr yn hoff o ymweld â chyrchfan fel yr un a ddangosir yn y ddelwedd.
Gweithgaredd 2
Mae’r map uchod yn dangos porthladdoedd a meysydd awyr y gall twristiaid eu defnyddio i deithio i Gymru o’r tu allan i’r DU.
- Gan ddefnyddio’r map, awgrymwch dri maes awyr (ar wahân i Gaerdydd) yr hoffai twristiaid eu defnyddio efallai i gyrraedd y DU ac yna teithio ymlaen i Gymru.
- I deulu o Wlad Belg, yn teithio i Ogledd Cymru o borthladd Zeebrugge, awgrymwch pa lwybr y dylent ei ddilyn i deithio i Ogledd Cymru.
- I deulu o Ffrainc, sy’n teithio i Dde Cymru o borthladd Roscoff, awgrymwch pa lwybr y dylent ei ddilyn ar ôl gadael y porthladd
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U3-1.1-Adnodd3.docx