Atyniadau naturiol yw nodweddion penodol sy’n apelio at dwristiaid oherwydd natur y tirffurf neu harddwch y dirwedd lle mae’r atyniad. Mae atyniadau naturiol yn cynnwys:
- Llynnoedd
- Afonydd a thirffurfiau fel rhaeadrau a cheunentydd
- Ogofâu
- Mynyddoedd
- Nodweddion arfordirol
Mae’n rhad ac am ddim ymweld â rhai atyniadau naturiol a chodir tâl mynediad ar gyfer rhai eraill. Nid yw’n bosibl codi tâl ar dwristiaid i ymweld â mynydd, ond gall fod yn fwy ymarferol codi tâl am ymweld ag ogof neu raeadr, yn enwedig os yw hwn ar dir preifat.
Fel arfer, mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael i dwristiaid ger atyniadau naturiol, gan gynnwys efallai:
- Canolfan groeso neu ryw fath o hysbysfyrddau am y nodwedd
- Meysydd parcio a mynediad i ymwelwyr anabl
- Cyfleusterau lluniaeth
- Siop cofroddion
- Cyfleusterau toiled
- Teithiau cerdded a theithiau tywysedig
- Golygfannau
Rhan o apêl llawer o atyniadau naturiol yw’r cyfleusterau a ddarperir. Mae llawer o dwristiaid yn gwerthfawrogi’r cyfle i gael gwybod ychydig am yr atyniad. Mae’r rhan fwyaf o atyniadau naturiol yn denu ymwelwyr sy’n aros mewn cyrchfannau cyfagos ac sy’n ymweld am hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn â’r ardal lle mae’r atyniad.
Llynnoedd
Mae llynnoedd yn ychwanegu at harddwch ac apêl llawer o dirweddau ac yn aml iawn yn darparu amrywiaeth o weithgareddau i dwristiaid o gwmpas eu glannau. Bydd sefydliadau teithio a thwristiaeth yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau dŵr ar lawer o lynnoedd ac, yn aml, bydd pentrefi glan llyn yn darparu cyfleusterau i dwristiaid. Mae gwersylloedd a safleoedd carafanau yn agos i lynnoedd yn boblogaidd am fod golygfeydd o lyn yn apelio at lawer o dwristiaid ac am fod nifer o gyfleusterau gerllaw yn aml.
Y llyn mwyaf yng Nghymru yw Llyn Bala (Llyn Tegid) sydd tua 6 chilometr o hyd ac 1.5 cilometr o led. Mae tref y Bala ym mhen gogleddol y llyn ac mae lein fach Rheilffordd Llyn Tegid yn rhedeg am nifer o gilometrau ar hyd ei lan deheuol. Mae’r llyn yn boblogaidd am bob math o weithgareddau dŵr gan gynnwys hwylio, caiacio a hwylfyrddio. Bydd rafftio dŵr gwyn yn digwydd ar Afon Dyfrdwy sy’n llifo drwy’r llyn.
Afonydd
Mae afonydd yn ychwanegu at apêl llawer o dirweddau a chyrchfannau. Mae Afon Tafwys yn Llundain a llawer o afonydd eraill yn denu twristiaid. Hefyd, denir twristiaid gan nodweddion fel ceunentydd a rhaeadrau.
Ogofâu
Cynhyrchwyd mwyafrif y systemau ogof gan ddŵr yn llifo drwy graciau a holltau mewn creigiau calchfaen ac yn achosi hindreuliad drwy brosesau cemegol. Yn sgil hyn, caiff systemau tanddaearol o ogofâu eu creu, a chanddynt amrywiaeth o nodweddion tirffurf unigryw.
Mewn llawer o ardaloedd, datblygwyd systemau ogof yn weithrediadau masnachol sy’n gweithredu fel atyniadau. Apêl yr ogofâu yw’r cyfle i gerdded o dan y ddaear a chael profiad o amgylchedd gwahanol. Yn y Deyrnas Unedig, mae nifer o systemau ogof, a’r enwocaf ohonynt yw Ogofâu Cheddar a’r systemau yn ardal Castleton yn Swydd Derby.
Mynyddoedd
Mae llawer o fynyddoedd yn cael eu hystyried yn atyniadau er byddai’r rhan fwyaf o gadwyni mynydd yn cael eu hystyried yn gyrchfan. Enghreifftiau o atyniadau mynydd penodol fyddai Ben Nevis yn yr Alban, yr Wyddfa yng Nghymru a Helvelyn yn Lloegr.
Mae mynyddoedd yn denu twristiaid ac yn apelio atynt am wahanol resymau. Mae rhai’n hoff o syllu ar helaethrwydd a harddwch y golygfeydd, ac eraill yn ystyried mynyddoedd yn her y mae arnynt eisiau eu dringo neu sgïo i lawr eu llethrau.
Nodweddion arfordirol
Fel y nodwyd yn gynharach, cynigia ardaloedd arfordirol apêl amrywiol i dwristiaid. Gellid dosbarthu pob traeth yn y byd yn atyniad naturiol ac mae gan lawer o’r rhain amrywiaeth o gyfleusterau i dwristiaid. I rai twristiaid, mae’r cyfleusterau a ddarperir yn ychwanegu at apêl y traeth, ond bydd traethau gwag ac arunig yn apelio’n fwy at eraill.
Ar wahân i draethau, mae amrywiaeth o dirffurfiau arfordirol sy’n cynnig apêl a diddordeb i dwristiaid. O amgylch arfordir Prydain, mae nodweddion sy’n amrywio o Durdle Door yn Dorset, i Beachy Head yn Sussex a Giant’s Causeway yng Ngogledd Iwerddon i gyd yn atyniadau penodol sy’n apelio at dwristiaid ac o ddiddordeb iddynt. Yma, ac mewn llawer o atyniadau arfordirol eraill, darperir amrywiaeth o gyfleusterau i dwristiaid a rhan o’r apêl yw cerdded ar hyd pen clogwyn i weld y tirffurf. Mae clogwyni, staciau, bwâu, ogofâu ac ynysoedd oddi ar yr arfordir i gyd yn cynnig diddordeb ac apêl i dwristiaid.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U3-1.1-Adnodd4.docx