Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 1.1 Datblygu Cyrchfannau Twristiaeth y DU

Trefi a Dinasoedd

Mae pob tref a dinas yn denu rhai twristiaid. Fodd bynnag, mae llawer o drefi a dinasoedd yn y DU yn cael eu hadnabod yn ‘drefi a dinasoedd twristiaid’ am eu bod yn denu llawer o dwristiaid bob blwyddyn ac am fod twristiaeth yn rhan bwysig o’r economi. Bydd y rhestr o ffactorau isod yn helpu i nodi trefi twristiaid, ond ni fydd yr holl ffactorau’n berthnasol i bob tref a dinas.          

  • Caiff trefi a dinasoedd twristiaid eu hadnabod yn gyrchfannau twristiaeth yn eu rhinwedd eu hunain. Mae dinasoedd fel Llundain, Manceinion a Chaerdydd yn enghreifftiau o ddinasoedd sy’n cael llawer iawn o dwristiaid.           
  • Mae trefi a dinasoedd twristiaid yn gysylltiedig yn bennaf â thwristiaeth hamdden; yn bennaf, cyrchfannau ydynt sy’n denu pobl ar wyliau byr neu dwristiaid hamdden am y dydd tra byddant ar wyliau hirach. 
  • Ceir amrywiaeth o atyniadau mawr mewn trefi a dinasoedd twristiaid, sy’n apelio’n aml at ystod eang o dwristiaid. Bydd y rhan fwyaf o’r atyniadau hyn wedi’u hadeiladu’n bwrpasol neu’n ddiwylliannol ond bydd rhai atyniadau naturiol, fel Afon Tafwys yn Llundain, i’w gweld hefyd.                             
  • Yn aml, ond nid bob amser, bydd trefi a dinasoedd twristiaid yn brifddinasoedd a chanddynt adeiladau llywodraeth neu balasau brenhinol ymhlith eu hatyniadau.   
  • Mae gan drefi a dinasoedd twristiaid amrywiaeth o gyfleusterau i gynnal gweithgareddau i dwristiaid. Gallai’r rhain gynnwys bysiau twristiaid sy’n rhoi teithiau cylchol, canolfannau croeso a bwytai a chaffis.                             
  • Bydd gan drefi a dinasoedd twristiaid arweinlyfrau wedi’u hysgrifennu amdanynt a bydd gwasanaethau tywys Bathodyn Glas neu eraill ar gael.
  • Bydd gan lawer o drefi a dinasoedd twristiaid ardaloedd adloniant gyda theatrau a bwytai, fel y West End yn Llundain.                                   
  • Bydd gan drefi a dinasoedd twristiaid amrywiaeth o lety ar gael i fodloni gofynion gwahanol fathau o dwristiaid.       
  • Mae’n ddigon posibl y bydd trefi a dinasoedd twristiaid yn ymddangos ym mhamffledi gweithredwyr teithiau, sy’n darparu gwyliau pecyn a gwyliau byr i’r ddinas.
  • Efallai hefyd y bydd trefi a dinasoedd twristiaid yn gyrchfannau arfordirol, yn gyrchfannau busnes neu’n gyrchfannau hanesyddol a diwylliannol, neu’r cyfan o’r rhain.
  • Efallai bydd trefi a dinasoedd twristiaid yn gysylltiedig â gwyliau a digwyddiadau blynyddol penodol, fel Gŵyl Caeredin.
  • Efallai bydd trefi a dinasoedd twristiaid yn gysylltiedig â digwyddiadau, cyfleusterau a stadia chwaraeon. Er enghraifft, bydd llawer o ymwelwyr â Chaerdydd yn ymweld â Stadiwm Principality.

Gweithgaredd 1

Llenwch y tabl isod drwy enwi 6 tref a dinas yn y DU y gellid eu disgrifio’n ‘drefi a dinasoedd twristiaid’, a 6 nad ellid eu disgrifio felly.